Neidio i'r prif gynnwy

Tîm 'Ail-wylltio Ysbyty Ystrad Fawr', yn hau hadau ar gyfer lles gobeithiol a manteision natur

Dydd Gwener 16 Mehefin 

Mae Cynorthwywyr Ymchwil o dîm Pharmabees Prifysgol Caerdydd, aelodau staff a gwirfoddolwyr cymunedol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi plannu hadau blodau gwyllt newydd ar dir Ysbyty Ystrad Fawr fel rhan o brosiect ‘Dad-ddofi Ysbyty Ystrad Fawr'.

Gall ysbytai fod yn lleoedd ingol, ar gyfer y staff yn ogystal â'r cleifion. Mae prosiect ‘Dad-ddofi Ysbyty Ystrad Fawr’ yn fenter i helpu i leddfu straen a gwella llesiant, a chynnig buddion amgylcheddol ar yr un pryd drwy ddad-ddofi safle’r ysbyty.

Dywedodd Phoebe Nicklin, Cynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o dîm Pharmabees: “Mae hwn yn brosiect parhaus gyda chleifion, ymwelwyr a staff, yn annog pobl i gymryd rhan er eu llesiant. Rydym wir yn gobeithio gweld buddion amgylcheddol y dirwedd fioamrywiol, yn ogystal â gweld y buddion i lesiant ymwelwyr, staff, cleifion, a phawb arall sy’n ymweld â’r ysbyty.”

Mae annog gweithgaredd mewn mannau gwyrdd fel y mannau hyn sydd wedi’u dad-ddofi cynnig sawl budd posibl i’ch iechyd meddwl a’ch iechyd corfforol. Mae hyn yn cynnwys lleddfu straen ac emosiynau negyddol. Gall hefyd gynorthwyo â chyflyrau clefyd y galon a chyfraddau is o ordewdra a lefelau diabetes math 2. Mae hefyd yn cynnig cysylltiad cymdeithasol a budd ymarfer corff i staff a gwirfoddolwyr sy’n helpu i blannu hadau a chynnal a chadw'r mannau hyn.

Mae Staff y GIG wedi cynnig adborth ar y mannau gwyrdd. Dywedodd un fod y man yn gwneud iddo deimlo wedi’i “adfywio, dadflino a’i ail-fywiogi”, a dywedodd un arall ei fod yn “gwneud ichi deimlo’n hapus ac yn gadarnhaol”.

Ymysg y meinciau sydd wedi'u gosod ac arwyddion ar gyfer staff o gwmpas y safle, mae’n debygol y bydd staff ac ymwelwyr yn gweld blodau menyn, llygaid llo, gludlys gwyn, clychau’r gog, pys pêr gwyllt, briallu Mair a dant y llew cyffredin.



Mae annog ardaloedd o flodau gwyllt dros dir wedi'i drin yn cynnig bioamrywiaeth a chynefin a ffynhonnell fwyd hanfodol. Mae hyn yn arbennig o amlwg ar gyfer peillwyr fel gwenyn, ac mae gan Ysbyty Ystrad Fawr ei gwch gwenyn ei hun, sy’n cynnig buddion ychwanegol i’r ardal.

Ar y cyd â Beeone, mae’r cwch gwenyn, wedi'i osod ar safle’r ysbyty, yn cael ei gadw gan dîm Pharmabees a staff yr ysbyty yn ystod eu hegwyliau a'u hamser hamdden. Amcangyfrifir bod y cwch yn dal dros 35,000 o wenyn, a’r bwriad yw bod y prosiect yn gallu bod yn hunan-gynaliadwy, gyda gwirfoddolwyr staff yn gofalu am y gwenyn a’r blodau gwyllt sy’n eu bwydo.

Dywedodd Jane Thornton, Rheolwr Ysbyty Ystrad Fawr: “Rydym i gyd yn ceisio cydweithio i greu Cymru llawer gwyrddach. Mae’n hyfryd gan ein bod yn chwarae mwy a mwy o ran. Mae'n annog pobl o wahanol feysydd o'r ysbyty i ddod allan i’r awyr agored a chydweithio, a chael ychydig o hwyl yn ystod amser cinio.”

Yn ôl ymchwil y Grassland Trust, mae pob hectar o laswelltir (10,000m sgwâr) yn gallu amsugno a storio hyd at 3 thunnell o garbon deuocsid y flwyddyn, mewn cymhariaeth â glaswellt arferol.

Mae Ysbyty Ystrad Fawr yn ffurfio rhan o'r 133 hectar o dir a ddefnyddir gan y bwrdd iechyd, gan gyflwyno enghraifft sylweddol ar gyfer datblygu tuag at lesiant a buddion amgylcheddol ledled Gwent.