Bu’r tîm Microbioleg yn dathlu diwrnod Gwyddorau Biofeddygol ddoe (Dydd Iau 8fed o Fehefin) gyda llawer o weithgareddau!
Bu iddynt gynnal stondin gwybodaeth Microbioleg i hyrwyddo'r proffesiwn a chyhoeddi gwaith y tîm.
Buont hefyd yn cynnal amryw o gystadlaethau i ddathlu’r diwrnod, gan gynnwys cystadleuaeth pobi ar thema wyddonol, cystadleuaeth dylunio crys-t, a chystadleuaeth celf agar lle ffurfiwyd lluniau wedi’u gwneud o facteria.
Rhoddwyd rhai gwobrau gan fusnesau lleol i ddweud diolch i’r staff am eu holl waith caled.
Da iawn i'r tîm Microbioleg, a diolch am eich holl waith amhrisiadwy!