Neidio i'r prif gynnwy

Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent yn dangos esiampl wrth ymrwymo i roi ofalwyr di-dâl ar y map

Rydym wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi gofalwyr di-dâl ac yn ymdrechu i sicrhau ein bod yn parhau gyda gwasanaethau a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi mai Tîm Partneriaeth Ranbarthol Gwent yw'r cyntaf yn y DU i gyflawni'r Achrediad Uwch am fod yn wasanaeth sy'n Gyfeillgar i Ofalwyr.

Nod yr ymrwymiad Cyfeillgar i Ofalwyr yw cydnabod, gwella a chynyddu mynediad at wybodaeth a chefnogaeth i ofalwyr di-dâl. Ewch i wefan 'Carer Friendly' i weld yr erthygl gyhoeddedig.

I gael mwy o wybodaeth ar sut y gall eich maes gwasanaeth ddod yn Gyfeillgar i Ofalwyr, cysylltwch â Lisa Yokwe ar lisa.yokwe@ctsew.org.uk

Swyddog Cyfeillgar i Ofalwyr
Ymddiriedolaeth Gofalwyr De Ddwyrain Cymru
Ffôn: 07593 435559

Ysbyty'r Sir
Griffithstown
Pont-y-pŵl
NP4 5YA