Neidio i'r prif gynnwy

Y gaeaf mwyaf heriol erioed ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Gwyddom fod gan bobl Gwent bryderon teilwng am argaeledd ac oedi gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y rhanbarth, ac mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y misoedd nesaf am fod yn sylweddol fwy heriol.  

Er mwyn egluro ymhellach pam mae'r sefyllfa mor anodd ar hyn o bryd, rydym yn wynebu nifer o heriau ledled y system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae Covid yn parhau i fod yn bresennol ac mae arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn rhagweld ton newydd o feirws y ffliw. Mae cynnydd sylweddol yn y nifer y bobl yng Ngwent sydd angen gwasanaethau ac rydym yn profi heriau staffio na welwyd o'r blaen o ran dim digon o weithwyr i gyflwyno'r gwasanaethau hyn. Nid yw'r heriau hyn yn unigryw i Went, fel yr adroddir yn helaeth yng nghyfryngau'r DU.

Gallwch chi ein helpu ni yn gyntaf. Rydym yn gofyn i bobl gadw llygad a chadw mewn cysylltiad ag aelodau o'r teulu a chymdogion – yn enwedig y rheiny sy'n fregus neu sy'n byw ar eu pen eu hunain. Os allwch chi gefnogi aelodau o'ch teulu, gofynnwn ichi wneud hynny oherwydd mae angen targedu'r gofal cymdeithasol cyfyngedig at yr unigolion sydd ei angen fwyaf.

 

Lle bo'n bosibl, cartref yw'r lle gorau i bobl fod ac mae angen i ni wneud popeth yn ein gallu er mwyn rhwystro ein hanwyliaid rhag bod angen gofal yn yr ysbyty. Ar hyn o bryd, mae'n fwy pwysig nag erioed ein bod yn dod ynghyd fel cymuned er mwyn sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu, eu cadw'n gynnes a'u bod yn llawn maeth.

 

Os ydych chi'n sâl neu wedi'ch anafu, neu'n ansicr beth i'w wneud neu ble i fynd, mae gwiriwr symptomau ar-lein 111 GIG Cymru yn lle gwych i ddechrau er mwyn cael cymorth a chyngor. Rydym yn awgrymu'n gryf bod unigolion cymwys yn cael eu brechiad ffliw a brechiad atgyfnerthu covid – gwyddom fod y brechiad yn cynnig amddiffyniad effeithiol ac nid yw'n rhy hwyr i gamu ymlaen.   

 

Mae hwn yn aeaf heriol i bawb - yn enwedig i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol hynod werthfawr, sy'n gweithio'n eithriadol o galed i gynnig y gofal gorau posibl i bobl. Rydym wedi gweld enghreifftiau yn ystod yr wythnosau diwethaf o bobl yn dangos eu rhwystredigaethau drwy fod yn ymosodol neu'n anghwrtais gydag aelodau o staff, ond mae hyn yn annerbyniol ac ni fydd yn cael ei oddef – rydym yn erfyn ar bobl i fod yn garedig tuag at yr unigolion hyn sy'n gweithio’n ddyddiol i ofalu am eraill.

Diolch am eich dealltwriaeth, cefnogaeth a chymorth.