Neidio i'r prif gynnwy

Y Sgwrs Fawr: Profedigaeth

Dydd Mawrth 13 Chwefror 2024

Ar ryw adeg yn ein bywydau, byddwn i gyd yn colli rhywun sy'n bwysig iawn i ni. Mae pawb yn rheoli eu colled mewn ffordd wahanol, ond bydd gan bob un ohonom rywbeth yn gyffredin.........galar.


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'n partneriaid eisiau datblygu model profedigaeth cynhwysol ac ymatebol un sy'n darparu mynediad i gymorth profedigaeth tosturiol i unrhyw un sy'n byw yn ein hardal, ar adeg pan fo'i angen arnynt.

 

Allwch chi ein helpu ni?

Rydym yn cynnal Sgwrs Fawr ynghylch profedigaeth ar:

20 Mawrth 2024

Canolfan Christchurch
BT Compound,
Old Malpas Road,
Casnewydd
NP20 5PP

9.30am -3.30pm

 

Hoffem wahodd unrhyw un sy'n barod i rannu eu profiad mewn profedigaeth i ymuno â ni. Rydym yn credu yng ngwir werth adborth gan gymunedau amrywiol. Byddem yn croesawu unrhyw un i fynychu heb ystyried oedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo a phriodas a phartneriaethau sifil.   Bydd adborth pobl yn cael ei ddefnyddio i lunio ein model profedigaeth newydd a gwella ein cynnig o ran profedigaeth.

I gofrestru archebwch le drwy Eventbrite:  https://www.eventbrite.com/e/the-big-conversation-bereavement-tickets-818696261557

Neu ffoniwch: 01495 768645

 

Os oes angen cymorth arnoch yn y digwyddiad, er enghraifft cyfieithydd/dehonglydd, system ddolen ac ati, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cofrestru i fynychu.

 

Os nad ydych yn gallu mynychu ond yr hoffech siarad â ni am eich profiad gyda phrofedigaeth, cysylltwch â'n Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion ar abb.pals@wales.nhs.uk