Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymestyn dyddiadau agor ei ganolfannau profi dros dro yng Nghaerffili, ac mae bellach yn gweithredu system archebu i reoli presenoldeb ar safle profi Tŷ Penallta.
Dim ond ar gyfer apwyntiadau a archebwyd ymlaen llaw y mae'r ganolfan brofi drwodd yn Nhŷ Penallta. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8:00 am-6:00 pm i archebu lle.
Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer Canolfan Cerdded i Fyny Canolfan Hamdden Caerffili.
Os ydych chi'n byw ym Mwrdeistref Sir Gaerffili ac yn profi symptomau Coronafeirws, cofiwch ddod i gael prawf cyflym, diogel.
Mae'r cyfleusterau profi hyn ar gyfer pobl sy'n byw yn ardal bwrdeistref Sir Gaerffili yn unig. Dewch â dystiolaeth adnabyddiaeth a chyfeiriad, fel trwydded yrru neu fil cyfleustodau.
Canolfan Hamdden Caerffili
Canolfan brofi cerdded i fyny wedi'i lleoli y tu allan i Ganolfan Hamdden Caerffili, CF83 3SW
Ar gael tan Ddydd Mawrth 15 Medi 2020
Oriau agor:
Swyddfeydd Cyngor Tŷ Penallta
Canolfan Brofi 'Gyrru Drwodd' wedi'i lleoli y tu allan i Swyddfeydd Cyngor Tŷ Penallta, Ystrad Mynach CF82 7PG.
Ar gael tan Ddydd Mawrth 15 Medi 2020
Oriau agor:
Dylir mynychu dim ond os oes gennych symptomau Coronafeirws:
Cofiwch, gall y symptomau hyn fod yn ysgafn iawn.
Dywedodd Mererid Bowley, Cyfarwyddwr Dros Dro Iechyd Cyhoeddus:
“Bydd ein canolfannau profi dros dro nawr ar agor tan y 15fed o Fedi, gan ganiatáu inni brofi mwy o bobl symptomatig ym mwrdeistref Caerffili- bydd y canolfannau profi hyn yn ein helpu i ddysgu mwy am gyfradd yr haint yng Nghaerffili a byddant yn ein helpu i gadw Gwent yn ddiogel.
Gallwch ein helpu i leihau lledaeniad y firws. Cadwch bellter cymdeithasol, golchwch eich dwylo yn aml, gwisgwch orchudd wyneb pan mae'n anodd Ymbellhau Cymdeithasol, cewch brawf os oes gennych symptomau a dylir hunan-ynysu os bydd olrheiniwr cyswllt yn gofyn i chi wneud hynny."