Neidio i'r prif gynnwy

100 Mlynedd o Ofal Llygaid yn Optegwyr Coed Duon

Dathlodd Optegwyr Phillips, yn y Coed Duon, 100 mlynedd o ofal optegol y llynedd. Wedi agor yn wreiddiol ym Mhontywain ym 1922, fe ddechreuon nhw weithredu fel Optegydd a gemydd!

Cwblhaodd Katie ei hyfforddiant cyn-gofrestru yn Phillips Optegwyr ac mae wedi gweithio yno fel Optometrydd cymwys ers hynny.

Er na allwch chi godi unrhyw emwaith mwyach yn ystod eich apwyntiad optegol, mae'r Optegwyr hyn wedi addasu dros y blynyddoedd i ddarparu ystod eang o wasanaethau. Gan gynnig llawer mwy na sbectol yn unig, gallant gynnal profion golwg ac apwyntiadau lensys cyffwrdd, yn ogystal â darparu Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru. Gallant hefyd ddarparu gofal yn nes adref i gleifion Glawcoma trwy eu trin yng nghangen Optegwyr Phillips Trecelyn yn lle iddynt orfod ymweld ag ysbyty.

Dywedodd Katie: “Mae’n hyfryd gweld pawb yn lleol a gallu rhoi’r gofal hwnnw iddynt yn nes at adref.”