Mae hi wedi bod yn fore prysur iawn yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor gan fod llawer o staff wedi bod yn cyrraedd i baratoi ar gyfer yr agoriad ar 17eg Tachwedd.
Gwnaed darpariaethau ar gyfer dros 900 o leoedd parcio ceir ar y safle, digon o leoedd i bobl anabl, storfa dan do ar gyfer beiciau ac 18 o bwyntiau gwefru ceir.
I ddarganfod mwy am y newidiadau i wasanaeth y GIG a fydd yn digwydd pan fydd yr ysbyty'n agor, ewch i'n tudalennau Dyfodol Clinigol.