Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau Prawf COVID-19

Rydym wedi derbyn adroddiadau gan aelodau’r cyhoedd am oedi wrth ddisgwyl am eu canlyniad ar ôl prawf COVID-19.

 

Gwerthfawrogwn pa mor bryderus yw hyn i’r bobl hynny sy’n profi symptomau COVID-19. Mae’r Bwrdd Iechyd yn deall bod oedi yn y labordai, sydd, i bob golwg, o ganlyniad i fwy o brofion yn cael eu cynnal. Rydym yn gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru, sydd â chyfrifoldeb am yr amser y mae labordai yn ei gymryd, i ddeall a chefnogi’n well y cyfleoedd ar gyfer gwella. Dylai unrhyw un sy’n bryderus am oedi wrth dderbyn canlyniad prawf lle cafodd y prawf ei archebu drwy Borth y DU, ffonio 119 a gall y rheiny a archebodd brawf yn uniongyrchol â’r bwrdd iechyd gysylltu â ni ar ABB.COVIDCareTesting@wales.nhs.uk a byddwn yn ymchwilio i’r oedi.