Neidio i'r prif gynnwy

Corff newydd yn cynrychioli llais y dinesydd, Llais, yn disodli hen Gynghorau Iechyd Cymunedol

O 1 Ebrill 2023, cafodd yr hen Gynghorau Iechyd Cymunedol a Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru eu disodli gan gorff newydd yn cynrychioli llais y dinesydd, sef Llais.

Sefydlwyd Llais i gryfhau’r gynrychiolaeth o bobl mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a grymuso pobl i ddylanwadu ar wasanaethau, a’u llywio. Bydd Llais yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yr awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol i roi llais i bobl ar draws Gwent am gynllunio a darpariaeth gwasanaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a sicrhau bod barn pobl yn cael ei chynrychioli.

Cael cymorth i godi pryderon

Os oes angen cymorth arnoch i godi pryderon, gall Llais – eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol eich helpu chi gyda hyn. Mae Llais yn gorff annibynnol a gall ei wasanaeth Eiriolaeth am ddim gynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i aelodau’r cyhoedd sydd am godi pryder.

Gall Llais eich cefnogi chi i godi pryder a rhoi cyngor i chi ar y camau gweithredu mwyaf priodol. Gallwch gysylltu â’ch swyddfa Llais leol fel a ganlyn:

Gwasanaeth Eiriolaeth

Llais – Rhanbarth Gwent

Raglan House

6-8 Clos William Brown

Parc Busnes Llantarnam

Cwmbrân

NP44 3AB

Ffôn: :  01633 838516

e-bost: gwentadvocacy@llaiscymru.org

Am ragor o wybodaeth ynghylch Llais, ewch i: Llais Cymru | LLais