Neidio i'r prif gynnwy

Pobl sy'n gymwys i gael brechiad ffliw am ddim:

  • Cleifion rhwng 50 - 64 oed
  • Cleifion dan 50 oed sy'n fregus.

Mae cleifion bregus yn cynnwys cleifion sy'n perthyn i'r grwpiau blaenoriaeth canlynol:

  • Pobl feichiog
  • Pobl 50 oed neu'n hŷn
  • Pobl rhwng chwe mis a 49 oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor sy'n eu rhoi mewn perygl uwch o'r ffliw, gan gynnwys,

ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Diabetes
  •  Problem gyda'r galon
  • Cwynion gyda'r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sy'n galw am anadlydd steroid arferol neu dabledi
  • Clefyd yr arenau (o gam 3 ymlaen)
  • Imiwnedd gwanach oherwydd afiechyd neu driniaeth (yn ogystal â chysylltiad agos â phobl yn y grŵp hwn)
  • Clefyd yr iau
  • Wedi cael strôc neu strôc fach
  • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd niwron motor
  • Dim dueg, neu broblemau gyda'ch dueg
  • Anabledd dysgu
  • Salwch meddwl difrifol
  • Gordewdra clefydol (gordewdra dosbarth III) Caiff hyn ei nodi fel unigolion sydd â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, ac sy'n 16 oed neu'n hŷn.
  • Epilepsi
  • Rydych yn byw mewn cartref gofal
  • Rydych yn ddigartref

Cynghorir i'r grwpiau canlynol hefyd gael y brechiad ffliw er mwyn diogelu eu hunain a'r bobl o'u cwmpas.

  • Pobl sy'n gweithio'n uniongyrchol â chleifion/cleientiaid o ran iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n cynnig cymorth cyntaf brys cynlluniedig
  • Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wannach