I nodi 75 mlynedd ers sefydlu’r GIG, rydym wedi clywed gan rai gwasanaethau lleol sydd wedi bod yn gofalu am eu cymunedau ers cenedlaethau. Mae'r gwasanaethau hyn wedi esblygu'n barhaus dros y degawdau i ddiwallu anghenion eu trigolion lleol yn well ac i sicrhau eu bod yn addas i ofalu am genedlaethau'r dyfodol yn y blynyddoedd i ddod.