Neidio i'r prif gynnwy

Diolch i drigolion Gwent am ein helpu i drechu'r ffliw y tymor hwn

Yn ystod tymor y ffliw eleni, fe wnaethom agor ein Canolfannau Brechu Torfol i blant 2-17 oed ar gyfer cael brechiad rhag y ffliw ar ffurf chwistrelliad i’r trwyn. Daeth nifer anhygoel i blant o bob cwr o Went i’n gweld a chael eu brechu – cyfanswm o 656. Dyma garreg filltir eithriadol ac rydym mor falch bod rhieni wedi neilltuo amser i ddod â’u plant draw, a’u diogelu. Wrth i’r tymor brechu rhag y ffliw dynnu tua’i derfyn am eleni, hoffem ddiolch i bob un ohonoch am ddod draw i’ch diogelu eich hunain a’ch anwyliaid.

Fe wnaethom ein gorau i hwyluso pethau ichi a’ch galluogi i gerdded i mewn i’n canolfannau ar adeg a oedd yn hwylus i chi, heb orfod gwneud apwyntiad – daeth nifer aruthrol o bobl o bob oed draw yn ddi-baid i gael eu brechu.

Yn ystod tymor nesaf y ffliw, gobeithio y byddwn yn eich gweld drachefn tua diwedd y flwyddyn ar gyfer eich brechiad blynyddol rhag anhwylderau’r gaeaf.