Neidio i'r prif gynnwy

Goroeswr Canser Lleol yn Annog Eraill i Edrych am Arwyddion Rhybudd Canser y Coluddyn

Dydd Mercher 26 Gorffennaf 2023

Mae dyn o Went a gurodd canser y coluddyn ar ôl diagnosis sydyn wedi annog eraill i gael eu harchwilio cyn gynted â phosib.

Roedd Lee Bennett, 52 oed o Griffithstown, yn ddyn iach ac egnÏol, yn beiriannydd, ac yn mwynhau chwarae golff yn ei amser sbar.

 

Brwydro yn erbyn canser y coluddyn oedd y peth olaf roedd Lee yn disgwyl y byddai’n ei wneud eleni, ond ar ôl teimlo nad oedd rhywbeth yn hollol iawn, llwyddodd i weld ddoctor yn gynnar a gofleidio agwedd bositif er mwyn ei helpu i oresgyn y salwch a dychwelyd at ei hobïau ychydig wythnosau ar ôl ei lawdriniaeth.

Dywedodd Lee, a sylwodd am y tro cyntaf ar newidiadau i’w egni a’i arferion coluddyn tua chwe mis cyn ceisio cymorth: “Rydw i fel potel o bop drwy’r amser fel arfer. Roeddwn i'n gwybod bod rhywbeth o'i le ond doeddwn i ddim yn gwybod beth. Roeddwn i'n amau rhywbeth ond roeddwn i'n dal i roi fy hun i lawr i 'wel dydw i ddim yn sâl. Dydw i ddim yn teimlo'n sâl'. Roedd gen i fywyd arferol, fe wnes i fwrw ymlaen â phethau a meddwl 'ni all hynny fod'.”

Fodd bynnag, nid tan i anwyliaid nodi ei fod wedi colli pwysau yn gyflym y sylweddolodd ei fod wedi colli dros dair stôn mewn chwe mis, ac wedi hynny, ymwelodd â'i feddyg teulu tua adeg y Nadolig y llynedd.

Yn dilyn atgyfeiriad brys gan ei Feddyg Teulu, gwelwyd Lee gan y tîm Endosgopi o fewn wythnos ac ar ôl biopsi, derbyniodd y newyddion bod ganddo diwmor malaen. Mae Lee yn canmol ei feddyg a'i dîm endosgopi am ei dawelu a rhoi agwedd gadarnhaol iddo.

 

Dywedodd: “Dywedodd y Doctor 'Rydych chi wedi dod i mewn mor gynnar, mae popeth y gallem ei wneud i chi yn dal i fod yn bosibilrwydd'.”

“Bryd hynny, roeddwn i’n gwybod yn fy mhen y byddai bod yn bositif yr holl ffordd drwodd yn helpu. Rwy'n berson positif, rydw i bob amser yn fyrlymus. Oherwydd fy mod yn bositif, fe wnaeth fy nghadw'n barod ar gyfer yr hyn oedd yn mynd i ddod gyda'r llawdriniaeth. Roeddwn i eisiau dychwelyd i chwarae golff, mynd allan, bod yn normal cyn gynted â phosibl.”

Gwellodd Lee yn gyflym ar ôl llawdriniaeth lwyddiannus chwe awr i gael gwared ar y tiwmor, gan ddychwelyd i'r gwaith dim ond tair wythnos yn ddiweddarach. Bythefnos ar ôl hynny, fe ailymwelodd â’r cwrs golff am y tro cyntaf ac mae wedi chwarae dros 20 gêm o golff ers iddo gael ei ryddhau.

Roedd Lee yn ddiolchgar iawn am y gofal a’r driniaeth a gafodd drwy gydol y broses hon.

Dywedodd: “O adrodd i fy meddyg, i gwrdd â nyrsys y coluddyn, o’r eiliad imi fynd i’r ysbyty i ddod allan, roedd pob un ohonyn nhw’n gwybod beth oedd yn digwydd. Dywedodd pob un ohonyn nhw wrthyf beth roedden nhw'n mynd i'w wneud nesaf. Felly ni allaf ddiolch digon iddyn nhw.”

Mae Lee yn annog eraill yn gryf - yn enwedig dynion - i gael eu harchwilio'n gynnar os ydyn nhw'n teimlo nad yw rhywbeth yn iawn.

Dywedodd: “Mae unrhyw beth rydych chi’n teimlo sy’n wahanol. Unrhyw beth rydych chi'n teimlo nad yw'n iawn, peidiwch â bod yn embaras i fynd, ac un, siarad amdano. Dau, ewch i weld eich meddyg. Es i byth at y meddyg erioed, ond nawr rydw i mor falch fy mod wedi gwneud hynny.”

 

Clywch fwy am stori Lee yn y fideo isod:

 

 

 

Dysgwch fwy am arwyddion a symptomau canser y coluddyn yma: Symptoms and signs | Ynglŷn â chanser y coluddyn | Bowel Cancer UK