Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp Cymorth Canser yr Ysgyfaint

Dydd Iau 29 Mehefin 2023

Sefydlwyd Grŵp Cefnogi cleifion a gofalwyr Canser yr Ysgyfaint a Mesothelioma tua 8 mlynedd yn ôl, ac mae’n benodol i gleifion BIPAB a’u teuluoedd ei fynychu. Mae'r Grŵp ar gyfer unrhyw glaf sydd wedi cael diagnosis o ganser yr ysgyfaint neu Mesothelioma. Nid oes ots os ydych ar ddechrau eich taith, yn mynd trwy driniaeth neu yn y cyfnod dilynol, mae croeso i bawb a hoffai fynychu. Maent yn cyfarfod ar ddydd Mercher cyntaf pob mis am 11.00am – 1.00pm, yn Theatrau’r Gyngres, Cwmbrân. Mae’r grŵp hefyd yn cynnal gwibdeithiau haf a Nadolig blynyddol sy’n cael eu mwynhau’n fawr gan y cleifion, ac mae ganddynt nifer o straeon doniol i’w hadrodd o’r teithiau hyn. Gall cleifion fynychu ar eu pen eu hunain neu ddod â ffrind neu anwyliaid, mae'r grŵp yn agored i gefnogi pawb. Does dim angen archebu lle, dim ond dod draw am goffi a bisgedi.

 

Mae llawer o'r cleifion wedi bod yn mynychu ers dros 5 mlynedd ac maent yn ffrindiau gwych. Nid oes gan y Grŵp Cymorth agenda, a chaiff y sgwrs ei llywio gan y cleifion a sut maent yn teimlo heddiw. Os yw cleifion eisiau siarad am eu salwch, gallant, os nad yw cleifion eisiau siarad, nid oes rhaid iddynt wneud hynny. Mynychir y Grŵp Cefnogi gan un o Nyrsys Canser yr Ysgyfaint, Sam Williams neu Carol Davies, sydd hefyd yn gallu cynnig cyngor a chefnogaeth ar lawer o wahanol bynciau.