Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyflwyno Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) newydd. Bydd y gwasanaeth hwn mynd yn fyw ar y 6ed o Dachwedd 2023.
Mae PALS yn bwynt cyswllt i gleifion, eu teuluoedd, a gofalwyr. Mae’r Tîm yn cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth gyfrinachol ar faterion yn ymwneud ag iechyd ac maent yma i wrando arnoch os:
Bydd y Tîm PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys pob ymholiad neu broblem yn gyflym ac yn uniongyrchol gyda'r staff dan sylw. Bydd y Tîm yn cadw mewn cysylltiad â chi dros y ffôn a/neu e-bost.
Gallwch gysylltu â Thîm PALS dros y ffôn neu drwy e-bost:
Rhif ffôn: 01633 493753
E-bost: ABB.PALS@wales.nhs.uk
Er gwybodaeth: Efallai y bydd y linell PALS yn mynd i beiriant ateb os yw’r tîm yn brysur. Gadewch neges gyda’ch manylion cyswllt a byddwn yn eich ffonio’n ôl o fewn 24 awr.
Darllenwch fwy o wybodaeth am y gwasanaeth PALS .