Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Neges Testun Newydd ar gyfer Apwyntiadau Cleifion Allanol

Mae ein Timau Canolfan Archebu yn treialu swyddogaeth newydd trwy DrDoctor sy'n galluogi cleifion i ymateb yn uniongyrchol i negeseuon testun sy'n cynnig apwyntiad claf allanol. Bydd cleifion sy’n derbyn y negeseuon hyn yn cael eu cyfeirio at ddolen a fydd yn caniatáu iddynt weld y neges lawn ac ymateb i gadarnhau a ydynt yn derbyn yr apwyntiad ai peidio. Gallwn eich sicrhau bod y rhain yn negeseuon dibynadwy a fydd yn dod o'r un rhif â holl gyfathrebiadau eraill DrDoctor ar 07860039092.

Yn ogystal, mae ein timau yn cysylltu â chleifion dros y ffôn a byddant yn ffonio o rif sy'n dechrau gyda 0330. Os ydych wedi symud cartref neu wedi newid eich rhif cyswllt ac yn aros am apwyntiad ar gyfer un o'r arbenigeddau a restrir, ffoniwch 01495 765055 er mwyn diweddaru eich cofnodion.

  • Cardioleg
  • Gofal yr Henoed
  • Diabetes ac Endocrinoleg
  • Gastroenteroleg
  • Llawfeddygaeth Gyffredinol
  • Gynaecoleg
  • Haematoleg
  • Clefydau Heintus
  • Neffroleg
  • Niwroleg
  • Pediatreg
  • Anadlol
  • Rhewmatoleg
  • Cwsg
  • Fasgwlaidd