Mae gwasanaeth radio ysbyty newydd, arloesol, ar alw wedi lansio yn Ysbyty Ystrad Fawr, i helpu
brwydro yn erbyn unigrwydd, diflastod a'r teimlad o unigedd y mae rhai cleifion yn ei wynebu wrth fod yn glaf mewn hysbyty- rhywbeth sydd ond wedi gwaethygu ers Pandemig Coronafeirws.
Crëwyd prosiect Ysbyty Ystrad FM (YYFM) gan Steven Davies- sy'n gweithio yn yr Ysbyty- ar ôl hynny,
gwelodd gyfle i roi mwy o ymdeimlad o berthyn i gleifion, a hefyd i helpu i gofio
atgofion i'r rhai sy'n byw gyda dementia, trwy ddefnyddio cerddoriaeth. Yn ogystal â darparu
cynnwys ei hun, mae Steven wedi sefydlu cysylltiadau â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Prifysgol De
Cymru, nifer o ysgolion lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill i gynhyrchu cynnwys ar gyfer y gwasanaeth.
Bydd cynnwys ar lafar yn cynnwys crynodebau newyddion, cyfweliadau, rhaglenni dogfen a dramâu radio, a hefyd yn rhoi cyfle i wrandawyr ddechrau dysgu iaith newydd. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cael ei ddefnyddio i gyflwyno negeseuon ysbyty hanfodol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a chanllawiau COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.
Bydd cynnwys ar lafar yn cynnwys ceisiadau caneuon cleifion a rhaglenni dogfen cerddoriaeth.
Gall cleifion yn yr ysbyty gael mynediad at YYFM trwy ymweld â itsyyfm.com ar eu dyfais(iau) eu hunain, neu trwy ddefnyddio un o'r tabledi sydd ar gael iddynt. Gall ymwelwyr a'r rhai y tu allan i'r ysbyty hefyd gael mynediad i'r gwasanaeth ar eu dyfais(iau) eu hunain trwy ymweld â'r un wefan.
Bydd gwrandawyr yn gallu rhoi eu hadborth ar y gwasanaeth, neu ofyn am gynnwys penodol, trwy glicio ar y botwm adborth ar itsyyfm.com.