Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Testun Nyrsio Ysgol Newydd: 07312 263 262

 

Dydd Mawrth 4 Gorffenaf

Mae Gwasanaeth Nyrsio Ysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi ymuno â Chat Health NHS i gynnig gwasanaeth testun newydd i bobl ifanc 11-19 oed. Gall pobl ifanc anfon neges destun yn ddienw at ein Tîm Nyrsio Ysgol ar 07312 263 262 i gael cymorth a chyngor cyfrinachol ar amrywiaeth o faterion iechyd corfforol a/neu emosiynol.
 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae ChatHealth yn defnyddio eich data ewch i ChatHealth

 

Nid ydym yn hysbysu eich rhieni, athrawon nac unrhyw un arall os bydd person ifanc yn cysylltu â nyrs yr ysgol. Fodd bynnag, os ydym yn pryderu am eu diogelwch, efallai y bydd yn rhaid i ni hysbysu rhywun. Byddem bob amser yn ceisio siarad â’r person ifanc yn gyntaf cyn gwneud hynny. Diolch am anfon neges at ChatHealth. Bydd eich neges i'w gweld yn fuan. Ein nod yw ymateb i bob neges o fewn 24 awr, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8:30 a 16:30 (ac eithrio gwyliau banc). Os oes angen help arnoch yn y cyfamser, cysylltwch ag aelod o staff yr ysgol neu eich meddyg. Fel arall, ewch i weld Meddyg Teulu y tu allan i oriau drwy ffonio GIG 111. Os yw'n argyfwng, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran damweiniau ac achosion brys.