Neidio i'r prif gynnwy

Gwobrau Iechyd a Gofal De Cymru 2023

Dydd Iau 20 Gorffennaf 2023

 

Mae’n bleser gan y South Wales Argus gyhoeddi 7fed Gwobrau Iechyd a Gofal blynyddol De Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol De Cymru.

Rydym am ddathlu pawb sydd wedi ymateb i her y misoedd diwethaf, gan oresgyn adfyd, gan ddangos cryfder aruthrol, dewrder, tosturi a dycnwch.

Mae enwebiadau nawr ar agor yn y categorïau canlynol:

  • Gofalwr yn y Cartref
  • Gwobr Rhagoriaeth mewn Nyrsio
  • Gwirfoddolwr y Flwyddyn
  • Fferyllfa'r Flwyddyn
  • Gwobr Tîm Gofal Iechyd
  • Gwobr Iechyd Meddwl
  • Gwobr Lle Gorau i Weithio
  • Cartref Gofal y Flwyddyn
  • Practis Meddyg Teulu y Flwyddyn
  • Meddyg Teulu y Flwyddyn
  • Elusen Iechyd y Flwyddyn
  • Ymgyrchydd Iechyd y Flwyddyn
  • Aelod Staff Gofal Iechyd Preifat y Flwyddyn
  • Tîm Gweithlu a Llesiant y Flwyddyn
  • Gwobr Tai â Gofal
  • Tîm Iechyd Merched y Flwyddyn


Dewisir y Wobr Cyflawniad Eithriadol o blith enillwyr y categorïau uchod.

Ewch i wefan South Wales Argus nawr i gael eich enwebiadau i mewn.

Dyddiad cau - 30 Gorffennaf 2023