Neithiwr (dydd Iau 29 Mehefin 2023) cynhaliwyd Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Cymru Coleg Brenhinol y Nyrsys (RCN) yng Nghaerdydd, ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dathlu dwy nyrs heddiw.
Llongyfarchiadau i Amanda Whent, Nyrs Arweiniol ar gyfer Dementia a enillodd y Wobr Gofalu am y Person Hŷn a Natalie Janes, Uwch Nyrs Gwasanaethau Clinigol Gofal Sylfaenol, a ddaeth yn ail yng Ngwobr Nyrsio Gofal Sylfaenol.