Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bwysig ynghylch y Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig yn ystod pandemig COVID-19

Dydd Mercher 26ain o Fawrth 2020
 
Oherwydd COVID-19, mae'r ffordd rydyn ni'n darparu gofal yn y Gwasanaeth Trawma ac Orthopedig yn newid.
 
Mae pob Apwyntiad a Llawdriniaeth Ddewisol (heblaw brys) wedi'u canslo, ond bydd y Gwasanaethau Brys yn parhau, er gyda rhai newidiadau.
 
Mae pob Apwyntiad Clinig Torri Esgyrn (Brys) yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent wedi cael eu canslo a'u hadleoli i Ysbyty Ystrad Fawr, lle bydd yr holl Glinigau Torri Esgyrn hyd y gellir rhagweld yn cael eu hwyluso. Os oedd gennych Apwyntiad Clinig Torri Esgyrn yn y naill neu'r llall o'r safleoedd hyn, byddwch yn derbyn gwybodaeth ynghylch dyddiad ac amser newydd yn Ysbyty Ystrad Fawr.
 
Bydd Llawfeddygaeth Trawma (Brys) yn parhau i gael ei hwyluso yn Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, gyda rhai gweithdrefnau hefyd yn cael eu cynnal yn Ysbyty Gwynllyw.
 
Mae'r Ymgynghorwyr Trawma ac Orthopedig yn adolygu anghenion cleifion fesul achos. Bydd y tîm archebu/ amserlennu yn cysylltu â chi os yw Llawfeddyg Orthopedig Ymgynghorol o'r farn ei bod yn angenrheidiol yn glinigol i chi gael eich gweld.
 
Ar gyfer unrhyw ymholiadau brys, lle bo hynny'n bosibl, cysylltwch â ni ar y cyfeiriadau e-bost isod, gan fod llinellau ffôn yn parhau i fod yn hynod o brysur.
 
Ein nod yw ymateb i bob e-bost o fewn 48 awr, ond o ystyried y sefyllfa bresennol, efallai y bydd ymatebion i ymholiadau yn cael eu gohirio.
 
Cleifion Allanol - OrthopaedicOutpatients.ABB@wales.nhs.uk
Cleifion Preswyl - OrthopaedicTreatments.ABB@wales.nhs.uk