Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Bwysig ynglŷn â Chanolfan Iechyd Cae Teg, Cwmbran

Ddoe, derbyniodd Cleifion o Ganolfan Iechyd Cae Teg yng Nghwmbrân lythyr gan y Bwrdd Iechyd yn cadarnhau bod Dr Allen a Phartneriaid yn dymuno ymddiswyddo eu Contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn effeithiol o 30 ain Mehefin 2020.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn sicrhau bod pob claf sydd wedi eu cofrestru ar hyn o bryd gyda Chae Teg fynediad at Meddygfa o 1 af Gorffennaf 2020 ac fe fydd Ganolfan Iechyd Cae Teg yn parhau i ddarparu Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol i gleifion fel arfer nes diwedd y contract ar 30 ain Mehefin 2020.

Bydd Panel Meddygfa Gwag y Bwrdd Iechyd yn cyfarfod yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf i drafod yr opsiynau sydd ar gael. O fis Chwefror ymlaen, bydd pob claf yn cael gwybod am ganlyniad y Panel Meddygfa Gwag a'r camau nesaf y bydd y Bwrdd Iechyd yn eu cymryd.

Bydd sesiynau galw heibio yn cael eu trefnu yng Nghanolfan Iechyd Cae Teg fel y gall cleifion drafod unrhyw bryderon sydd ganddynt gyda Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol a byddwn yn eu hysbysu pryd mae'r rhain yn digwydd.

Dylech fod yn sicr nad oes angen i chi wneud unrhyw beth ar yr adeg hon. Os oes gennych unrhyw bryderon yn y cyfamser, cysylltwch â Chanolfan Iechyd Cae Teg ar 01633 869544 neu aelod o'r Tîm Gofal Sylfaenol ar 01495 241239.

 

Gweler rhestr llawn y Cwestiynau Cyffredin.