Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Gleifion a Gyfeiriwyd i'r Ysbyty gan eich Meddyg Teulu

Sut i reoli’ch cyflwr wrth aros i gael eich gweld yn yr ysbyty.


Mae’ch meddyg wedi’ch atgyfeirio at adran yr ysbyty. Oherwydd COVID-19, dim ond y cleifion hynny sydd angen eu gweld ar fwyaf o frys y bydd y gwasanaethau ysbyty yn eu gweld. Mae hynny’n golygu y gallai gymryd mwy o amser nag arfer ichi gael apwyntiad. Serch hynny, dylech gael llythyr gan eich ysbyty lleol yn fuan yn rhoi rhagor o wybodaeth ichi o ran a oes angen ichi gael eich gweld.

Rydym yn deall ei bod yn gyfnod pryderus ichi – bydd eich meddyg wedi rhoi cyngor ichi ar sut i reoli’ch cyflwr, ond mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y GIG isod.

 

Os bydd eich symptomau’n newid neu’n gwaethygu, dylech gysylltu â’ch meddygfa i ofyn am gyngor.

 

Er mwyn cynnal eich iechyd yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwn ichi ddilyn y cyngor canlynol ar gadw pellter cymdeithasol gan y bydd yn lleihau lledaeniad COVID-19 ac yn eich cadw’ch iach gyda’ch cyflwr.

Dylech:

  1. Osgoi cysylltiad â rhywun sydd â symptomau coronafeirws (COVID-19). Mae'r symptomau hyn yn cynnwys tymheredd uchel a/neu beswch cyson newydd
  2. Osgoi defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus nad yw'n hanfodol, pan fo hynny'n bosibl
  3. Gweithio gartref, pan fo hynny'n bosibl. Dylai’ch cyflogwr eich cefnogi i wneud hyn
  4. Osgoi casglu mewn grwpiau mawr a bach mewn mannau cyhoeddus, gan nodi bod tafarndai, bwytai, canolfannau hamdden a lleoliadau tebyg ynghau ar hyn o bryd gan fod heintiau’n lledaenu’n rhwydd mewn mannau caeedig lle mae pobl yn ymgynnull
  5. Osgoi ymgynnull gyda ffrindiau a theulu. Cadwch mewn cysylltiad gan ddefnyddio technoleg o bell fel ffôn, y rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol
  6. Defnyddio gwasanaethau ffôn neu ar-lein i gysylltu â'ch meddyg neu wasanaethau hanfodol eraill.

Dylai pawb ddilyn y camau hyn.