Neidio i'r prif gynnwy

Mae arnom angen eich cymorth er mwyn enwi Canolfan Iechyd a Llesiant Dwyrain Casnewydd.

Mae arnom angen eich cymorth er mwyn enwi Canolfan Iechyd a Llesiant Dwyrain Casnewydd.

Disgwylir iddi agor yn gynnar yn 2025, a bydd y Ganolfan Iechyd a Llesiant wedi’i lleoli yn Ringland, ar safle’r hen Bractis Ringland Medica. Bydd yn gartref i ddau Bractis Meddyg Teulu sy’n gweithio’n annibynnol; Practis Meddygol Ringland a Meddygfa’r Parc, ochr yn ochr â Deintyddfa Ringland a nifer o wasanaethau iechyd a llesiant eraill.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r datblygiad newydd, ewch i: Canolfan Iechyd a Llesiant Dwyrain Casnewydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (nhs.wales)

I gyflwyno eich syniadau ar gyfer enwi’r adeilad, ewch i: https://www.smartsurvey.co.uk/s/3SZT8I/ erbyn Dydd Gwener 21 Gorffennaf 2023.