Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun peilot iechyd cymunedol newydd yn lansio i gefnogi pobl ym Mlaenau Gwent a Chaerffili i gyflawni pwysau iach a byw'n dda.

Mae'r 'Rhaglen Iechyd Cymunedol' newydd yn cael ei threialu ym Mlaenau Gwent  a Gogledd Caerffili a bydd yn cynnig cyngor a chymorth am ddim i drigolion lleol sy'n gymwys i er mwyn iddynt gyrraedd neu gynnal pwysau iach. Bydd yn cysylltu unigolion ag  adnoddau digidol ac all-lein yn ogystal â gwasanaethau a ddarperir yn lleol trwy ddarparu cymhelliant, cefnogaeth a chyfeirio. 

Dywedodd Donna Price, Rheolwr Clinigol Dieteteg Gymunedol:

"Rydym yn deall y gall cyflawni a chynnal pwysau iach fod yn heriol i lawer o bobl, ac mae taith pwysau pob unigolyn yn wahanol. Dyna pam y crëwyd ein cynllun, er mwyn rhoi cymorth unigol i chi i'ch helpu i fod yn iachach ac yn fwy egnïol. Pan fyddwch chi'n barod, gallwch gyfeirio'n syth atom ni.

“Gwyddom y gallai fod angen gwahanol fathau o gymorth ar gymunedau ledled Gwent i gael gafael ar wybodaeth, a gallwn gefnogi'r cyhoedd i gael mynediad at adnoddau drwy gymorth wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Rydym yn gobeithio y bydd y peilot newydd hwn  yn chwalu'r ffiniau ar sail cael gafael ar gymorth i wneud newidiadau iach, ac y bydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i'r rhai nad oes ganddynt fynediad at adnoddau a gwybodaeth ar-lein.

“Gan fod Blaenau Gwent a Chaerffili yn cynnwys nifer fawr o gymunedau sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol, yn ogystal â nifer o bobl sydd dros bwysau neu’n ordew, roeddem am dreialu'r cynllun lle'r oedd ei angen fwyaf.

“Mae'n rhad ac am ddim i drigolion lleol Blaenau Gwent a Chaerffili gyda Mynegai Màs y Corff (BMI) rhwng 25-30 ac sydd dros 18 oed.”

Gall preswylwyr sydd am gael mynediad at y cymorth am ddim wneud hynny trwy lenwi'r ffurflen atgyfeirio ar y ddolen isod:  https://forms.office.com/e/z0FY7mJfK7

Os na allwch lenwi'r ffurflen uchod, gallwch gyfeirio'ch hun dros y ffôn. Bydd yr alwad yn cymryd tua 20-30 munud a bydd aelod o'n tîm yn gofyn cwestiynau i chi amdanoch chi a'ch pwysau. Bydd angen i chi wybod eich taldra, pwysau cyfredol a chael rhestr o'ch meddyginiaeth bresennol. Ffoniwch ni ar 01633 831 949 ar Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 10:00yb a 15:00yp i gyfeirio dros y ffôn.

 

Gall preswylwyr ddarganfod mwy drwy ymweld â: Cynllun Peilot Rhaglen Iechyd Cymunedol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)

 

 

Gwybodaeth bellach

Os ydych chi'n byw y tu allan i'r ddwy ardal beilot hon a'ch bod yn teimlo mai dyma'r amser iawn i chi weithio tuag at gyflawni pwysau iach, gallwch siarad ag aelod o'r tîm am gymorth ar y rhif ffôn uchod neu gwblhau’r atgyfeiriad. Gellir hefyd gael mynediad at gyngor a chymorth dibynadwy, am ddim drwy GIG Cymru. Hafan - Pwysau Iach Byw'n Iach

Os nad ydych yn siŵr beth yw eich BMI ar hyn o bryd, gallwch gyfrifo hyn ar-lein trwy nodi'ch mesuriadau taldra a phwysau yma: http://www.nhs.uk/live-well/healthy-weight/bmi-calculator/