Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb clywed mwy am brofiadau oedolion sy'n byw gyda phoen parhaus.
Rydym ni’n chwilio am bobl i:
- ymuno â grŵp o bobl sy'n byw gyda phoen parhaus
- ymuno â grŵp o bobl sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda phoen parhaus neu'n gweithio gyda nhw
- rhannu eich profiadau y gellir eu defnyddio fel astudiaeth achos ysgrifenedig neu eu ffilmio gyda'ch caniatâd i'w defnyddio fel stori fideo.
Bydd y grwpiau'n cymryd rhan mewn dau grŵp ffocws. O ganlyniad i'r gwaith hwn, gall y grwpiau barhau i gwrdd ychydig o weithiau'r flwyddyn yn y dyfodol. Bydd y grwpiau'n rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y materion mae’r rhai sy'n byw gyda phoen parhaus a'r rhai sy'n eu cefnogi yn eu hwynebu.
I ddiolch i chi am rannu eich amser a'ch profiadau gyda ni, byddwn yn talu costau rhesymol ac yn cynnig tystysgrif rhodd fach i'r rhai sy'n cymryd rhan. Cymerwch ychydig funudau i gwblhau ein holiadur sgrinio, a fydd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod gennym ni ystod o wahanol straeon o bob cwr o Gymru. Unwaith y byddwn ni wedi adolygu'r rhain byddwn mewn cysylltiad!
Mae’r arolwg ar agor tan 20 Rhagfyr 2023.
Cyswllt arolwg: