Neidio i'r prif gynnwy

Grymuso Cyn-filwyr Gwent gyda'n Menter Realiti Rhithwir

23 Mehefin 2023

Wrth i’r haul wawrio ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2023, mae tîm Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi’i leoli yn y Fenni yn parhau â menter ar gyfer cyn-filwyr sy'n helpu i’w hymdrochi mewn ymwybyddiaeth realiti rithwir.

Dywedodd Vanessa Bailey, Arweinydd clinigol y tîm: “Mae cyn-filwyr wedi gwasanaethu ein gwlad. Ac felly, mae cynnig rhywbeth sydd efallai ychydig yn wahanol, ychydig yn unigryw iddynt, yn hynod fuddiol a chadarnhaol.”

Mae'r cleifion hyn yn cael setiau pen realiti rhithwir wedi'u gosod â chynnwys ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn eu helpu i reoli eu symptomau iechyd meddwl yn well wrth ddisgwyl rhwng triniaethau. O goedwigoedd heddychlon i fryniau tawel.

Wrth weithio â Therapyddion Cyn-filwyr a Mentoriaid Cyfoed, mae’r tîm yn rhan o wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, sy’n wasanaeth blaenoriaeth arbenigol ar gyfer cyn-filwyr sydd â phroblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â gwasanaeth milwrol.

 

Bwriad y tîm yw gwella iechyd meddwl a llesiant cyn-filwyr ac mae'r setiau pen realiti rhithwir yn un o’r sawl ffordd maent yn mynd i’r afael â’r nod o gynnig gwasanaethau cynaliadwy, hygyrch ac effeithiol.

Mae Damon Rees, un o Fentoriaid Cyfoed y tîm, hefyd wedi’i enwebu yng nghategori Iechyd a Llesiant Gwobrau Cyn-filwyr Cymru 2023. Dywedodd:

“Treuliais 28 mlynedd yn gweithio fel Sarjant Platŵn gyda’r Corfflu Logisteg Brenhinol / Arloeswyr Brenhinol cyn ymddeol o wasanaeth milwrol ym mis Chwefror 2016. Rwy’n frwd dros y gwaith rwy’n ei wneud wrth gefnogi gwell iechyd meddwl a gwella iechyd a llesiant ein cyn-filwyr, ac mae’n fraint cyrraedd rowndiau terfynol Gwobrau Iechyd a Llesiant Cyn-filwyr Cymru.

Hoff ran fy rôl yw gweld ein cyn-filwyr yn gwella, yn datblygu ar eu taith o wella, ac yn ail-adeiladu eu bywydau. Dyna pam y gwnaf yr hyn a wnaf.”


Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 115,341 o gyn-filwyr yng Nghymru gyda 21,527 yn byw yng Ngwent.

Roedd un cyn-filwr a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth “yn ei chael hi’n ymlacio cyn mynd i’r gwely ac yn helpu gyda chwsg.” Dywedodd un arall “wrth ei ddefnyddio nid oedd fy meddwl ar fy mhroblemau.”

Mae’r gwasanaeth yn parhau i gefnogi cyn-filwyr yng Ngwent, gan dderbyn 87 o atgyfeiriadau yn 2020-21 a 150 yn 2019-20. Gall cyn-filwyr a milwyr wrth gefn hunanatgyfeirio, a chroesewir atgyfeiriadau hefyd gan wasanaethau iechyd amrywiol a sefydliadau trydydd sector. Gyda chlinigau cleifion allanol yn cael eu darparu ar draws Gwent.