Neidio i'r prif gynnwy

Oriau Agor Fferyllfeydd Cymunedol dros y Flwyddyn Newydd 2023/2024

Bydd pob meddygfa a mwyafrif y fferyllfeydd cymunedol ar gau ar Nos Galan a Dydd Calan. Gweler isod pa fferyllfeydd fydd ar agor ar bob un o'r diwrnodau hyn.

Rhifau Cyswllt Argyfwng:

  • Os oes angen i chi weld meddyg ar frys dros y cyfnod hwn, cysylltwch â'r Gwasanaeth 111 drwy ffonio 111. Mewn argyfwng meddygol, ffoniwch 999. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch deialu 999, cysylltwch â 111.
  • Os oes angen cyngor deintyddol arnoch, cysylltwch â'r Llinell Gymorth Deintyddol y Tu Allan i Oriau ar 01633 744387.
  • Os oes angen Gofal Gwasanaethau Cymdeithasol brys arnoch, cysylltwch â Thîm Dyletswydd Argyfwng Gwasanaethau Cymdeithasol De-ddwyrain Cymru ar 0800 328 4432.

 

Sicrhewch eich bod yn archebu eich holl bresgripsiynau rheolaidd neu ganlyniadau profion gwaed mewn da bryd.