Mae cynllun tai newydd ar safle hen Glinig Brynmawr ym Mlaenau Gwent wedi agor yn swyddogol.
Mae Tŷ Acer yn adeilad fflatiau newydd sy'n cynnwys pum fflat gyda mannau cymunedol a swyddfeydd ar gyfer preswylwyr a staff.
Wedi’i reoli mewn partneriaeth â’r sefydliad tai di-elw United Welsh a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fel rhan o’r Prosiect Acorn, mae Tŷ Acer yn darparu cartrefi a chymorth unigol, arbenigol i bobl ddysgu a datblygu’r sgiliau, y profiad a’r hyder i byw'n annibynnol.
Mae’n fodel gwasanaeth cydweithredol unigryw gan y sectorau tai ac iechyd, sy’n rhoi preswylwyr yn y craidd.
Symudodd preswylydd newydd, Molly, i Dŷ Acer ym mis Medi. Dywedodd hi:
“Ers symud i Dŷ Acer, rydw i wedi dysgu gwneud pethau fel sut i dalu biliau a golchi fy nillad fy hun, sydd wedi bod yn wych. Mae staff bob amser yma i fy helpu.
“Mae symud yma wedi fy helpu yn fawr. Rwy'n teimlo y gallaf dyfu i fod yn bwy rydw i wir eisiau bod, ac mae gen i dîm anhygoel o staff y tu ôl i mi i'm cefnogi ar hyd fy nhaith. Mae Tŷ Acer yn golygu llawer i mi.”
Dywedodd Karen Tipple, Cyfarwyddwr Tai a Llesiant Arbenigol yn United Welsh:
“Rydyn ni’n wirioneddol falch o’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u creu gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae ein partneriaeth yn fodel unigryw sy’n ein galluogi i siapio gwasanaethau mewn ffordd sy’n creu newid gwirioneddol ac effeithiol i’r trigolion rydym yn eu cefnogi.
“Yn United Welsh, rydym yn cyflawni ein pwrpas craidd o ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a chefnogaeth i bobl, tra hefyd yn lleihau cost uchel yr oedi wrth ryddhau cleifion a brofir gan y Bwrdd Iechyd. Bydd y gwasanaeth hefyd yn rhyddhau lleoliadau ysbyty y mae pobl eraill eu hangen.
“Mae Tŷ Acer yn gam mawr ymlaen yn ein partneriaeth ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i weld yr effaith gadarnhaol y mae’r prosiect yn ei greu ar fywydau pobl.”
Dywedodd Megan Duffy, Seicolegydd Arweiniol yn Nhŷ Acer o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
“Mae Tŷ Acer yn gyfle i weithio’n greadigol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl. Gyda’r ffocws ar berthnasoedd a chysylltiadau wrth wraidd y prosiect, rydym yn gobeithio cefnogi’r preswylwyr i adeiladu eu bywydau yn y gymuned.
“Mae gweithio ar y cyd ag United Welsh yn ein caniatáu i wneud penderfyniadau diogel heb fod yn gyfyngol er mwyn caniatáu mwy o gyfleoedd i bobl ddiwallu eu hanghenion mewn ffordd dosturiol. Rydym eisoes yn clywed am newidiadau mawr y mae hyn yn eu creu i’r trigolion ac rydym yn angerddol am barhau â hyn.”
Mae Tŷ Acer yn adeilad fflatiau sydd wedi'i inswleiddio'n fawr ac sy'n defnyddio ynni'n effeithlon. Fe'i gweithgynhyrchwyd gan ddefnyddio strwythurau ffrâm bren gan Celtic Offsite, menter gymdeithasol o fewn Grŵp United Welsh.
Cyflawnwyd y datblygiad mewn partneriaeth ag United Welsh, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Cyngor Blaenau Gwent a Llywodraeth Cymru, gan dderbyn cymorth gan Gronfa Rhyddhau Tir a Chronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.