Rydyn ni’n falch o gyhoeddi y bydd melo yn cynnal gweithdy i bobl ifanc 16-25 oed yng Ngwent ar ein gwefan lles meddwl newydd! Byddwn yn casglu adborth gan bobl ifanc ledled Gwent ar sut y gallwn wneud ein gwefan a'n hadnoddau hyd yn oed yn well. Bydd ein gweithdy’n digwydd ar 25 Chwefror am 5.30pm, drwy alwad Zoom.
Eisiau cymryd rhan? Dyma dri pheth y gallech chi eu gwneud:
1. Ewch i wefan melo yma: https://www.melo.cymru/
2. Os ydych chi’n berson ifanc, rhowch adborth ar wefan melo drwy'r arolwg: https://www.smartsurvey.co.uk/s/MeloYoungPersonSurvey1/
4. Cofrestrwch i fynychu'r gweithdy. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Emma Palmer: Emma.Palmer@wales.nhs.uk
Edrychwn ymlaen at glywed gennych!