Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Iceberg - Gwneud Gwahaniaeth

Mae rhaglen Iceberg yn parhau i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau teuluoedd ardraws Gwent ar adeg mor ansicr i gynifer o blant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Wedi'i ariannu'n rhannol trwy Grant Trawsnewid Llywodraeth Cymru, mae'n darparu ystod o wasanaethau yn y gymuned, gan ddarparu cymorth ac ymyrraeth gynnar i deuluoedd a gwneud y system yn llawer haws i'w llywio. Mae'r rhaglen newydd dderbyn cyllid blwyddyn ychwanegol gan LlC, ac amlygwyd agweddau ar y rhaglen fel enghraifft genedlaethol o arfer gorau yn yr Adroddiad 'No Wrong Door' gan y Comisiynydd Plant Sally Holland, sy'n ymddangos yn y ffilm.
 
Dywedodd Emily Warren, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Trawsnewid, 'Mae'n gymaint o bleser gweld y gwahaniaeth y mae'r cyllid a ddarperir gan LlC yn ei wneud i fywydau teuluoedd yng Ngwent ac mae'n bwysicach fyth nawr helpu i ddarparu cefnogaeth hygyrch a defnyddiol wrth i ni barhau i lywio effaith Covid yng Ngwent.'
 
Dywedodd Dr Luke Jones, Pennaeth y Rhaglen 'Mae rhaglen Iceberg yn wirioneddol drawsnewidiol, gan ddod â phartneriaid o Addysg, Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Trydydd Sector ynghyd i ddarparu dull integredig, wedi'i seilio ar berthynas. Mae'r rhaglen SPACE-Wellness yn darparu un llwybr mynediad mawr ei angen i'r system ac mae teuluoedd yn nodi effaith gadarnhaol i'r bobl ifanc sy'n elwa o wasanaethau.
 
Gweler mwy o wybodaeth am y rhaglen yn y fideo canlynol: