Mae’n bleser gennym gyhoeddi’r aelodau staff canlynol a ymddangosodd ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin ar gyfer 2023.
Mae Pippa Britton, Is-Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, ac Is-Gadeirydd UK Anti-Doping a Chwaraeon Cymru, wedi derbyn OBE am wasanaethau i Chwaraeon.
Mae Pippa yn Baralympiad dwbl a fu’n cystadlu ar dimau saethyddiaeth Cymru a Phrydain Fawr am 15 mlynedd, yn ogystal â chael lle ar y podiwm mewn 6 Pencampwriaeth y Byd a 24 o ddigwyddiadau Rhyngwladol.
Llongyfarchiadau, Pippa!
Mae Christine Ann Culleton, Nyrs Gymunedol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, wedi derbyn BEM am wasanaethau i'r GIG yn Ne Ddwyrain Cymru.
Nyrs 81 oed yw Christine a ddechreuodd ei gyrfa pan oedd yn 17 oed ac yn dal i wirfoddoli. Daw Christine o New Inn ym Mhont-y-pŵl ac mae wedi cysegru ei bywyd cyfan i helpu eraill.
Llongyfarchiadau, Christine!
Mae'r Rheolwr Gofal Iechyd, Alison Ryland, wedi derbyn MBE am wasanaethau i ofal iechyd carchardai yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin!
Bu Alison yn nyrs gofrestredig ers dros 38 mlynedd. Ar ôl cymhwyso yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd, mae hi wedi gweithio ar draws amrywiaeth o leoliadau gofal iechyd, gan gynnwys ysbytai, cymuned, practis cyffredinol ac, am y 6 blynedd diwethaf, o fewn ystâd carchardai Ei Mawrhydi.
Mae Alison yn credu'n gryf mewn darparu gofal o ansawdd sy'n canolbwyntio ar y claf a hefyd mewn lleihau anghydraddoldebau iechyd o fewn cymdeithas.
Dywedodd Alison: “Mae’n fraint ac yn anrhydedd i mi dderbyn y wobr hon i gydnabod fy ngwaith tuag at wella gofal iechyd i gleifion. Mae’r wobr hon, ynghyd â’m gwerthfawrogiad, yn perthyn i’r tîm cyfan, sydd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau ein bod yn gallu darparu gofal iechyd teg yn unol â’r hyn a gynigir gan y gymuned ehangach. Mae fy nhîm a minnau wedi ymrwymo i ddarparu ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd nid yn unig yn hybu lles corfforol a meddyliol carcharorion, ond sydd hefyd yn helpu i leihau’r risg o aildroseddu.”
Llongyfarchiadau, Alison!