Neidio i'r prif gynnwy

"Rwy'n dal i deimlo'n ddiolchgar am bob anadl rwy'n ei chymryd" meddai Claf o Went am y Gwasanaeth sy'n Atal Arhosiad Mewn Gwely Ysbyty

Pan ddaeth un o breswylwyr Gwent, sef Catherine o Nant-y-glo, yn wael iawn y llynedd, cafodd ei chefnogi gan yr uned gofal dydd Gastroenteroleg (GACU) a arweinir gan nyrsys yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Dywedodd Catherine: “Rwy’n dal i deimlo’n ddiolchgar am bob anadl rwy’n ei chymryd.” Wrth ddisgrifio’r gefnogaeth a roddwyd iddi dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hi ar y rhestr aros am drawsblaniad iau ar hyn o bryd ac mae GACU yn helpu i liniaru’r angen iddi deithio’n bell ar draws y wlad i gael gofal arbenigol ar gyfer ei chyflwr. Mae’n dod at y gwasanaeth am drallwysiadau rheolaidd a phrofion gwaed, y byddai’n rhaid iddi deithio ar draws y wlad i’w cael fel arall. 

Mae GACU yn derbyn tua 4200 o ymweliadau'r flwyddyn ar gyfer triniaethau ac ymyraethau sy’n achosion dydd, ac mae gan 40 o gleifion y mis gyflyrau tebyg i Catherine. Mae'r gwasanaeth yn arbed tua 120 o ddyddiau gwely'r mis yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Arbediad o ran cost o £54,000 y mis o leiaf.

Mae'n rhan o fenter gofal dydd ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan sy'n seiliedig ar y dull o alluogi cleifion i gerdded i mewn a dod adref yr un diwrnod ac aros dim ond os oes gwir angen iddynt aros.

Gellir derbyn cleifion i GACU ar gyfer gofal hanfodol ac mae hyn yn fodd o osgoi derbyniadau brys. Mae cleifion yn gleifion gastro yn bennaf ond cânt eu hatgyfeirio at GACU hefyd o feysydd eraill. Ceir rhai cleifion sydd â chlefyd y coluddyn, daw eraill yno i adolygu canlyniadau gwaed neu caiff eraill eu hanfon yno am adolygiadau brys na allant aros am adolygiad mewn clinig. Mae'r uned hefyd yn cynorthwyo gyda gwasanaethau ar gyfer cleifion niwroleg, cleifion anadlol a chleifion gofal lliniarol os gallant helpu.

Dywedodd Catherine: “Roedd gen i fywyd normal fel mam. Roeddwn i’n teimlo’n sâl iawn ond roedd hynny’n normal i mi.”

Roedd hi'n colli pwysau ac wedi cael poen ar ochr chwith ei chorff. Dywedwyd mai ei dueg yn ceisio gwneud yn iawn am y problemau parhaus gyda’i hafu oedd yn achosi hyn. Cafodd ei chyfeirio o Ysbyty Athrofaol Y Faenor a chafodd ei chefnogi gan yr uned dros y misoedd a ddilynodd.  Ar ôl i’w chyflwr waethygu’n gyflym, derbyniodd driniaeth arbenigol yn Llundain ac yn y pen draw, dychwelodd adref i Went i barhau ag ôl-ofal yn lleol o’r uned.

“Wnes i erioed fethu â gwenu wrth adael, ac roedd hynny yn ystod y dyddiau pan oeddwn fwyaf gwael, roeddwn yn dal i adael gyda gwên.” Aeth Catherine yn ei blaen

“Diolch, hoffwn ddiolch iddynt am fy nghyfeirio a’m gwthio i gadw fy iechyd ar y trywydd iawn.”

Dywedodd Gaz Lloyd-Ford, Nyrs Arweiniol, Gastroenteroleg a Meddygaeth Gyffredinol: “Mae Catherine yn enghraifft ddelfrydol o glaf sydd wedi gwrando ar bopeth yr ydym wedi gofyn iddi ei wneud ac sydd wedi cytuno i bob triniaeth yr ydym wedi gofyn iddi gymryd rhan ynddi ac sydd wedi gwella o’r herwydd.”

“Mae'n fy ngwneud i'n falch iawn,” aeth yn ei flaen “Yr ymgynghorwyr sy'n ein cefnogi ni ar y ffôn, fy nhîm o HCSWs, arbenigwyr nyrsio cymwys, mae'n rhaid i bawb gyd-dynnu er mwyn cefnogi’r claf drwy’r driniaeth ac mae’n rhaid i’r claf ei hun gyd-dynnu hefyd.”

“Mae meddygaeth ddydd yn ei gyfanrwydd yn rhywbeth sy'n esblygu. Mae modelau gwahanol hefyd yn cael eu defnyddio mewn mannau eraill yn y bwrdd iechyd. Yr holl bwynt yw bod y cleifion yn yn cael triniaeth dydd, gallant ddod i mewn a gallant fynd adref. Dim ond os ydym wir angen iddynt aros y maent yn aros. Neu maent yn dod yn ôl 3 neu 4 gwaith yn ystod yr wythnos honno am driniaeth y byddent fel arfer yn ei chael yn yr ysbyty, ond ar yr amod y byddant yn cael eu hatgyfeirio i’r Faenor os ydynt yn gwaelu neu os nad ydym yn hapus. ”

“Rydym yn ceisio cadw o fewn y model dyfodol clinigol i orau’n gallu, mae meddygon yn gweld yr aciwtedd y mae angen iddynt ei weld, mae'n tynnu'r pwysau oddi arnynt ac mae’n golygu bod pobl yn cael y gofal priodol.”