Neidio i'r prif gynnwy

Rydyn Ni Ar Agor!

Ar ôl 16 mlynedd o gynllunio, mae'r diwrnod yma o'r diwedd - mae Ysbyty Athrofaol Y Faenor AR AGOR!!!

Mae staff ar draws y Bwrdd Iechyd, ein sefydliadau partner a'n contractwyr wedi gweithio'n ddiflino i'n cyrraedd y diwrnod hwn.

Yr ydym yn hynod falch o allu agor y cyfleuster gofal arbenigol hwn o'r radd flaenaf yng Ngwent, ac mae gallu ei agor 4 mis yn gynharach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol yn fraint fwy fyth.

Rydym yn anhygoel o gyffrous o ddechrau chwyldroi gofal iechyd yng Ngwent a bydd yr ysbyty Arbenigol a Gofal Critigol pwrpasol newydd hwn yn dod â'n strategaeth #DyfodolClinigol yn fyw. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i ysbytai sy'n digwydd ledled Gwent, ewch i'n tudalennau Dyfodol Clinigol

Cadwch lygad ar ein sianelau Cyfryngau Cymdeithasol drwy gydol y dydd unwaith eto heddiw, wrth i ni ddod â diwrnod olaf #YSymudMawr

#YsbytyAthrofaolYFaenor #GIGCymru