Neidio i'r prif gynnwy

Staff Iechyd Gwent, ddoe a heddiw

Fel rhan o ddathliadau GIG75, rydym wedi edrych yn ôl ar rai o’n deiliad Gwobr Gwasanaeth Hir a’r atgofion a rannwyd â ni o wahanol adrannau’r bwrdd iechyd. Daeth lluniau pellach yn garedig o’r Gaplaniaeth ac Ystadau a Chyfleusterau.

Gallwn ddathlu llwyddiannau a dysgu i gyfoethogi’r dyfodol drwy rannu ein straeon â’n gilydd. Mae’n amhrisiadwy o ran creu cysylltiadau â’n gilydd, gwybodaeth a dealltwriaeth o rolau eraill.

 


Rhiannon Hobbs

Beth ddechreuodd eich gyrfa?

Bûm yn ymddiddori mewn anghyfiawnder iechyd a chymdeithasol ers pan oeddwn yn ifanc, ond ni allwn fynegi bod gan rai unigolion fantais dros eraill ar y pryd.

 

Pa atgofion o’ch gyrfa ydych chi’n ymfalchïo drostynt fwyaf?

Llwyddo yn fy arholiadau nyrsio terfynol a dod yn Nyrs Gyffredinol Gofrestredig (RGN), ac yn Feistr mewn Iechyd Cyhoeddus (MPH). Gofalu am fy nghleifion yn yr uned lawdriniaeth, mentora myfyrwyr, cydweithwyr iau, cefnogi fy uwch nyrsys a’n nhîm. Yn y maes iechyd cyhoeddus, helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, a sicrhau bod brechlynnau’n cael eu dosbarthu’n deg yn ystod y pandemig, gan frechu’r rhai nad oeddent fel rheol yn dod ymlaen i dderbyn gofal iechyd, grwpiau ymylol ac unigolion digartref.

 

Beth sydd wedi bod fwyaf gwerth chweil?

Gallu gwneud gwahaniaeth bychan i fywydau pobl naill ai drwy roi’r gofal gorau posib iddynt ar ôl llawdriniaeth, helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu neu hwyluso mynediad at frechlynnau i bobl oedd yn cael trafferth cael apwyntiadau arferol.

 

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y rhai sy’n dechrau yn eich gyrfa?

Os oes gennych ddiddordeb, siaradwch â phobl a rhowch gynnig ar bethau a pheidiwch byth â thanbrisio’r hyn rydych yn gallu ei gyflawni.

 

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud? 

Diolch i bob un o’m ffrindiau a’m cydweithwyr sydd wedi fy nghefnogi i.

 


Cindy Haskell

Beth ddechreuodd eich gyrfa?

Roeddwn eisiau bod yn nyrs erioed.  Roedd gennyf fodryb a oedd yn nyrs ac a gafodd ddylanwad arnaf ar ryw adeg mae’n debyg.  Mae gen i atgof o fynd i’r coleg o’r ysgol i wneud cwrs “cyn-nyrsio” ac ar ôl hynny bûm yn gweithio mewn cartref preswyl ar “Gynllun Cyfleoedd i Bobl Ifanc” gan ennill £25 o gyflog yr wythnos.  Gweithiais mewn ffatri wnïo chwe mis ar ôl cwblhau’r cwrs wrth i mi aros i ddechrau fy hyfforddiant nyrsio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym mis Gorffennaf 1983.  Y mis nesaf, bydd hi’n 40 mlynedd ers i mi ddechrau ar fy nhaith.

 

Pa atgofion o’ch gyrfa ydych chi’n ymfalchïo drostynt fwyaf?

Mae ‘na gymaint rwy’n siŵr.  Mae dal y teitl “nyrs” ynddo’i hun yn fy niffinio i fel unigolyn, ac rwy’n falch o hynny.  Dechreuais fy ngyrfa fel Nyrs Ymrestredig gan y Wladwriaeth felly roedd newid i fod yn nyrs gofrestredig gan y wladwriaeth yn gyflawniad ac yn atgof.  Gwireddu fy mreuddwyd i fod yn Nyrs Ardal ac yna llwyddo mewn gradd nyrsio cymunedol, na feddyliais y byddwn byth yn ei gyflawni gan fy mod wedi ystyried fy hun bob amser fel unigolyn ymarferol yn hytrach nag academaidd.  Es i India ar leoliad yn ystod fy ngradd ac roeddwn yn falch o’r gwahaniaeth bychan a allais wneud gyda thîm o nyrsys eraill ar y pryd, a oedd yn fuan ar ôl i’r Swnami ddigwydd.

Heddiw rwy’n dal i fod yn ffrindiau â chwe nyrs anhygoel a gwrddais yn ôl ym 1983 ac rydym yn parhau i greu atgofion hyfryd hyd heddiw sydd wedi dylanwadu arnaf a fy ngwneud i’r person ydw i heddiw.

 

Beth sydd wedi bod fwyaf gwerth chweil?

I fwynhau’r swydd gan barhau’n frwdfrydig ac ymdrechu i wneud fy ngorau glas bob dydd yn fy ngwaith.    Cefnogi eraill cymaint â phosib, o gleifion a’u teuluoedd i’m cydweithwyr neu’r rhai y byddaf yn dod ar eu traws y tu allan i’r swydd o bosib.  Gwneud gwahaniaeth.

 

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth y rhai sy’n dechrau yn eich gyrfa?

I’w mwynhau cymaint â phosib gan fod yna adegau trist, unig, heriol a llawn straen iddi.  Cwestiynwch yr hyn a ofynnir i chi ei wneud bob amser a meddyliwch am y rhesymeg y tu ôl i pam ein bod yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud.  Mae yna gymaint o gyfleoedd o fewn y GIG felly yn ystod unrhyw hyfforddiant gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd y cyfleoedd hynny er mwyn meithrin cymaint o wybodaeth a sgiliau â phosib a chofiwch fod nyrsio yn ddysg gydol oes.

 

Oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud?

Rwy’n teimlo’n ffodus, balch a diolchgar o fod yn nyrs ac mae nifer o gydweithwyr a gwrddais ar hyd y daith sydd wedi fy annog i ddatblygu’n broffesiynol fel nyrs ac fel unigolyn.  Mae Sr. Delyth Jones a oedd yn brif nyrs ward yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn yr 1980au yn un a wnaeth fy ysbrydoli ac a’m harweiniodd i drwy esiampl, ac yn rhywun y byddaf yn ei chofio am byth.  Deuthum ar ei thraws mewn parti’n ddiweddar ac ers iddi ymddeol mae’n parhau i wneud gwaith gwirfoddol.  Dywedais wrthi cymaint roeddwn yn meddwl ohoni, a chafodd fy ngeiriau argraff fawr arni ac aeth i deimlo’n eithaf emosiynol.