Neidio i'r prif gynnwy

Tair wythnos i fynd nes bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn trawsnewid gwasanaethau gofal iechyd y GIG yng Ngwent

Dim ond tair wythnos sydd i fynd nes bod Ysbyty Athrofaol y Faenor yn agor ei ddrysau i gleifion.

Mae'r ysbyty newydd gwerth £350m, yn Llanfrechfa, Cwmbran, yn rhan allweddol o Raglen Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy'n trawsnewid y gwasanaeth iechyd ar draws rhanbarth Gwent.

Bydd Ysbyty Athrofaol y Faenor, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn agor ar Ddydd Mawrth 17eg o Dachwedd- pedwar mis yn gynt na'r disgwyl i helpu'r Bwrdd Iechyd i ymateb i bwysau'r Gaeaf a COVID-19.

Cyn agor yr ysbyty, bydd llyfryn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu i bob cartref yng Ngwent i sicrhau bod pobl leol yn deall y newidiadau a fydd yn digwydd i'w gwasanaethau GIG.

Bydd yr ysbyty newydd yn darparu canolfan ragoriaeth i drin ein cleifion mwyaf difrifol sâl, neu'r rhai ag anafiadau sylweddol, a nawr bydd yr Adran Achosion Brys i bawb sy'n byw yng Ngwent. Yn y gorffennol, mae Ysbytai Brenhinol Gwent a Nevill Hall ill dau wedi darparu’r gwasanaethau meddygol brys hyn, ond o 17 Tachwedd 2020 bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu canoli yn Ysbyty Athrofaol y Faenor i sicrhau bod y gofal o’r safon uchaf un yn cael ei ddarparu.

Bydd Unedau Mân Anafiadau 24/7 yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Bydd Ysbyty Aneurin Bevan yn parhau i fod ag Uned Mân Anafiadau, ar agor 9am-7pm o Ddydd Llun i Ddydd Gwener (ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc). Caiff Unedau Mân Anafiadau eu harwain gan Ymarferwyr Nyrsio Brys.

Bydd newidiadau hefyd i'r ffordd y darperir gwasanaethau i blant. Gellir trin plant 1 oed a hŷn yn eu Huned Mân Anafiadau lleol, ond os oes ganddynt salwch sy'n bygwth bywyd neu anaf difrifol, bydd angen iddynt fynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor. Bydd angen i bob babi o dan 12 mis oed fynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor, hyd yn oed os oes ganddynt fân anaf neu salwch.

Dywedodd Judith Paget, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae Ysbyty Athrofaol y Faenor yn garreg filltir allweddol yn ein Rhaglen Dyfodol Clinigol- ein cynllun i ddarparu gwasanaethau iechyd y GIG sydd o'r ansawdd uchaf ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

“Bydd y cyfleuster modern newydd sbon hwn yn gwella’r gofal y gallwn ei gynnig i’n cleifion ochr yn ochr â’n safleoedd ysbyty presennol a’r gwaith pwysig sy’n digwydd yn ein cymunedau i gadw pobl yn iach ac allan o’r ysbyty pryd bynnag y bo modd.

“Mae'n bwysig iawn bod pobl leol yn darllen y llyfryn gwybodaeth, neu'n ymweld â'n gwefan, i ddysgu am y newidiadau sy'n digwydd.”

Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau i ofal iechyd yng Ngwent ar gael ar wefan a thudalennau cyfryngau cymdeithasol y Bwrdd Iechyd.