Neidio i'r prif gynnwy

Tîm ystadau i weithio gyda busnesau lleol ar brosiectau Mân Waith

Dydd Llun 3ydd Gorffennaf 2023

Mae tîm Ystadau BIPAB am weithio gyda mwy o wasanaethau adeiladu lleol i gynorthwyo gyda chynnal a chadw ei safleoedd.

Gyda thua 77 eiddo ar draws Gwent, yn amrywio o strwythurau cyn 1900 i Ysbyty Athrofaol newydd y Grange, mae cynnal a chadw adeiladau'r Bwrdd Iechyd yn dasg enfawr.

O ganlyniad, mae'r tîm am gydweithio â Busnesau Bach a Chanolig (SMB) lleol i gefnogi a chyflawni prosiectau Mân Waith.

I wneud hyn, mae'r Bwrdd Iechyd wedi lansio Fframwaith a Thendr Mân Waith newydd, sydd bellach yn fyw tan 12pm ar 14fed o Orffennaf 2023 .

Os ydych yn adnabod unrhyw SMBs lleol a fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda ni ar brosiectau Mân Waith, rhowch wybod iddynt am y cyfle hwn.

Mae'n gyfle gwych i wasanaethau adeiladu lleol weithio gyda ni, gan helpu i gynnal a gwella ein safleoedd i sicrhau gofal o ansawdd i gleifion ac amgylcheddau gweithio diogel i staff.

Ceir rhagor o wybodaeth ar yr hysbysiad GwerthwchiGymru , ac mae'r dogfennau tendro llawn ar gael yn https://etenderwales.bravosolution.co.uk

Mae cyfleoedd ar gael mewn sawl maes gwaith adeiladu gwahanol, gan gynnwys:

  • gwaith adeiladu cyffredinol
  • lloriau
  • Nenfwd
  • paentio ac addurno
  • gwaith trydanol
  • gwaith mecanyddol
  • drysau tân
  • adrannu tân
  • toi
  • ffenestri a gwydro
  • diogelwch (CCTV, rheoli mynediad, tresmaswyr)
  • awyru
  • nwy meddygol
  • cloddiadau a sifil
  • dymchwel
  • tynnu asbestos

Am unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, anfonwch e-bost at: Rachel.Jones43@wales.nhs.uk