Neidio i'r prif gynnwy

Y Brodyr Pumed Cenhedlaeth yn Parhau â'r Etifeddiaeth o Fferyllfa Leol 150 Mlwydd Oed

Mae un o’r busnesau hynaf yn y Fenni, Fferyllfeydd Shackleton, yn dathlu 150 mlynedd mewn busnes eleni – a brodyr, Ian a Geoff, yw'r bumed cenhedlaeth o Fferyllwyr Shackleton yn eu teulu.

Wedi'i sefydlu'n wreiddiol gan George William Shackleton yng ngwanwyn 1873, dechreuodd Fferyllfa Shackleton fel busnes bach teuluol yn nhref y Fenni. 150 mlynedd yn ddiweddarach, mae'r Fferyllfa hon wedi addasu i ddiwallu anghenion ei phoblogaeth leol gynyddol trwy ehangu i nifer o safleoedd adnabyddus a phoblogaidd; gan gynnwys nifer o ystafelloedd ymgynghori, system ddosbarthu electronig a rhestr gynhwysfawr o wasanaethau.

Dywedodd y Fferyllydd, Ian:

“Rydym bellach wedi bod yn gwasanaethu’r gymuned leol ers cenedlaethau ac rydym yn ymfalchïo mewn ceisio mynd y tu hwnt i’r hyn sydd ei angen arnom i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Mae 150 o flynyddoedd yn amser hir ac mae'r GIG wedi bod o gwmpas ers 75 felly rydym wedi gweld llawer o newidiadau drwy gydol y cyfnod hwnnw.

“Rydym wedi croesawu hynny drwy ddatblygu ein safleoedd fel y gellir darparu rôl yn yr amgylchedd gorau posibl i gleifion a’n staff fel ei gilydd.”

Dros y blynyddoedd, mae Fferyllfeydd Shackleton wedi ehangu nifer y gwasanaethau a’r triniaethau GIG lleol y maent yn eu cynnig, ac maent bob amser yn chwilio am ffyrdd newydd o ddiwallu anghenion eu trigolion lleol yn well a gwneud eu gwasanaethau’n addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y fferyllydd, Geoff:

“Mae yna'r Cynllun Anhwylderau Cyffredin, sy'n wasanaeth gwych, dim apwyntiad, i aelodau'r cyhoedd cael dod i mewn ar gyfer mân anhwylderau a gweld fferyllydd yn syth bin. Rydym yn cynnig rhoi'r gorau i ysmygu, atal cenhedlu brys.

“Rydym hefyd yn edrych ar ddatblygu unrhyw beth sydd ei angen ar y cyhoedd yn y gymuned leol a’u cysylltu â’r meddyg teulu i geisio lleddfu rhywfaint o’r pwysau sydd arnynt hefyd.”

Yn dilyn yn ôl troed eu teulu, mae mab a merch Geoff ill dau yn astudio Fferylliaeth yn y Brifysgol ac yn mynd i fod y chweched genhedlaeth o Fferyllwyr yn y teulu Shackleton.

Dywedodd Geoff:

“Mae yna gyfle iddyn nhw ymuno â’r busnes wrth symud ymlaen i barhau â’r gwasanaeth rydyn ni’n ei cynnig i bobl leol yn y Fenni.”

 

I'r 150 mlynedd nesaf o Fferyllfeydd Shackleton!