Neidio i'r prif gynnwy

Y Bwrdd Iechyd yn Rhybuddio y Gallai Edrych Ar Ol Cymdogion Bregus Arbed Bywydau wrth i'r Tymheredd Ddisgyn

Dydd Mawrth 16 Ionawr 2024

Gyda thymheredd rhewllyd yn lledu ar draws y DU, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi annog trigolion Gwent i wirio bod aaelodau bregus o'r gymuned yn ddiogel ac yn iach - ac wedi rhybuddio y gallai hyn hyd yn oed achub bywyd.

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae’r rhan fwyaf ohonom mewn perygl o fod angen ychydig o ofal ychwanegol, ond i’r aelodau mwyaf agored i niwed yn y gymuned, mae risg uwch o fynd yn ddifrifol wael neu dioddef anaf, ac angen mynd i’r ysbyty.

Mewn tymereddau is, mae pobl sy’n agored i niwed – fel y rheini sy’n hŷn neu’n fregus, yn enwedig os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain – mewn mwy o berygl o lithro neu gwympo ar rew; mynd yn sâl oherwydd firysau'r gaeaf fel peswch, annwyd, Covid-19 neu'r ffliw; o waethygu unrhyw gyflyrau anadlol presennol, ac o ddioddef o hypothermia.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn gofyn i drigolion Gwent helpu i gadw aelodau bregus o'r gymuned yn iach ac allan o'r ysbyty dros gyfnod y gaeaf trwy alw i mewn neu gadw mewn cysylltiad i wirio eu bod yn iawn, yn ogystal â chasglu hanfodion ar eu rhan i'w hannog i beidio â gadael y tŷ mewn tywydd oerach.

Gall teuluoedd, ffrindiau a chymdogion chwarae rhan fawr wrth gadw anwyliaid yn ddiogel ac yn iach trwy wneud yn siŵr eu bod yn gynnes ac yn gyfforddus gyda mynediad at wres, blancedi, dillad cynnes, a bwyd a diodydd poeth; bod ganddynt ddigon o fwyd maethlon i gynnal eu system imiwnedd; bod eu cabinet meddyginiaeth wedi'i stocio'n dda; bod ganddynt sliperi gwaelod caled i atal cwympiadau gartref; a'u bod yn cael digon o feddyginiaeth reolaidd.

Dywedodd Dr James Calvert, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Gall trigolion lleol ein helpu ni drwy ofalu amdanynt eu hunain a’u hanwyliaid y gaeaf hwn. Gwyddom fod aelodau bregus o’n cymunedau yn fwy agored i gwympiadau ac effeithiau’r tywydd oerach yn ystod misoedd y gaeaf, felly gallai cysylltu ag aelodau hŷn o’r teulu a chymdogion eu hatal rhag cael niwed a hefyd helpu i leihau’r pwysau ar ein gwasanaethau GIG gwerthfawr.”

Bydd sicrhau bod unrhyw fân salwch yn cael ei drin yn gynnar gan fferyllydd neu feddyg teulu lleol hefyd yn atal y rhai sy'n agored i niwed rhag mynd yn ddifrifol wael. Pan fydd angen cymorth meddygol arnynt, dylai unrhyw un sy’n ansicr o ble i fynd pan fo angen cymorth meddygol fynd i Ganllaw Iechyd Gwent i gael cyngor lleol: Canllaw Iechyd Gwent - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (gig.cymru)