Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad 'One Gloucestershire'

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cael gwybod am ymgynghoriad a lansiwyd heddiw ar drefniant i’r dyfodol o wasanaethau arbenigol o ysbytai Cheltenham a Swydd Gaerloyw. Yn benodol, mae’r ymgynghoriad yn canolbwyntio ar y gwasanaethau canlynol:

  • Meddygaeth Aciwt (yn benodol derbyniadau meddygol aciwt)
  • Gwasanaethau cleifion mewnol Gastroenteroleg
  • Llawdriniaeth Gyffredinol (llawdriniaeth gyffredinol frys, Gastroenterolegol Is a Drefnir
    [GI] / llawdriniaeth y colon a’r rhefr a llawdriniaeth achosion dyddiol Uwch ac Is
  • Llawdriniaeth Ymyriadol drwy Ddelwedd (IGIS) gan gynnwys Llawdriniaeth Fasgwlar
  • Gwasanaethau cleifion mewnol Trawma ac Orthopedeg.

Gwyddom y bydd yr ymgynghoriad hwn yn berthnasol i rai pobl yn ein poblogaeth, yn enwedig Sir Fynwy, sy’n gallu croesi dros y ffin i Loegr ar gyfer peth o’u gofal. Mae amryw o ddogfennau ymgynghorol ar wefan One Gloucestershire, yn ogystal â chyfleoedd i ymgysylltu’n uniongyrchol. Dyma’r dolenni:

Y dogfennau sydd ar gael yn Lloegr yw:

 

Dyma’r dolenni sydd ar gael fel gwybodaeth ar-lein, adborth a chwestiynau yn ystod yr ymgynghoriad:

Mae dogfennau dwyieithog wrthi’n cael eu paratoi a hoffem gyfleu ein diolchiadau i One Gloucestershire am alluogi’r rhan hon o’u hymgynghoriad.