Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Iechyd a Lles Bevan yn Nhredegar yn agor i gleifion

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch iawn o gyhoeddi bod Canolfan Iechyd a Lles Bevan, gwerth £19m, yn Nhredegar bellach ar agor i gleifion.

Mae Canolfan Iechyd a Lles Bevan wedi'i hadeiladu ar hen safle Ysbyty Cyffredinol Tredegar ac mae wedi'i lleoli yn nhref enedigol Aneurin Bevan, sylfaenydd y GIG. Mae Meddygfa Glan-yr-afon, practis meddygol Tredegar a Fferyllfa Canolfan Iechyd Tredegar bellach wedi symud i'r ganolfan newydd ac o heddiw (22ain Ionawr 2024) mae wedi agor ei ddrysau i gleifion.

Dywedodd Nicola Prygodzicz, Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan,


"Mae Canolfan Iechyd a Lles Bevan yn elfen sylfaenol o'r model Dyfodol Clinigol ym Mlaenau Gwent, gan helpu'r Bwrdd Iechyd i ddarparu ystod eang o wasanaethau yn nes at adref i'r gymuned leol."

"Gan fod yr ysbyty presennol yn rhan bwysig iawn o dreftadaeth trigolion lleol, rydym wedi sicrhau bod gwreiddiau’r adeilad yno o hyd er mwyn i etifeddiaeth Aneurin Bevan parhau i fod yn rhan sylweddol o'r dref."

"Rydym yn falch iawn o'r cyfleuster newydd hwn a fydd yn caniatáu i gleifion gael mynediad at ystod eang o wasanaethau iechyd a lles o dan yr un to yng nghanol eu cymuned eu hunain."


Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Adeiladwyr Kier Construction y Gorllewin a Chymru:


"Rydym yn falch iawn o fod wedi trosglwyddo cam cyntaf y prosiect hwn a fydd yn darparu cyfleuster iechyd a lles amhrisiadwy i drigolion Tredegar.

"Mae gweithio i roi bywyd newydd i'r adeilad arbennig hwn lle cafodd y GIG ei genhedlu gyntaf gan Aneurin Bevan wedi bod yn anrhydedd go iawn ac edrychwn ymlaen at gyflawni gweddill camau'r prosiect dros y misoedd nesaf."

Bydd cam dau'r datblygiad yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf gyda hen Ganolfan Iechyd Tredegar yn cael ei dymchwel i wneud lle ar gyfer y maes parcio ar gyfer y ganolfan newydd. Yn ystod gam dau, bydd gwasanaethau ychwanegol fel deintyddol, ymwelwyr iechyd, podiatreg a lymffemia hefyd yn agor i'r cyhoedd. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn rhagweld y bydd y ganolfan yn gwbl weithredol yn ddiweddarach eleni.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Ganolfan Iechyd a Lles Bevan, ewch i: https://bipab.gig.cymru/dyfodol-clinigol/datblygiadau/canolfan-iechyd-a-lles-bevan/