Neidio i'r prif gynnwy

Uned Profi Dros Dro Newydd Yn Agor yn Senghenydd, Caerffili

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn agor uned profi dros dro yn Senghenydd ar Ddydd Mercher 21 ain Hydref 2020.

Bydd yr uned symudol newydd hon yn darparu gwasanaeth profi galw heibio prynhawn i drigolion Caerffili, trwy apwyntiad yn unig.

Os oes gennych symptomau Coronafeirws (COVID-19), waeth pa mor ysgafn ydyw - peswch parhaus newydd, tymheredd uchel neu golli blas a / neu arogl, ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-8pm, Dydd Llun-Dydd Gwener a rhwng 8am-6pm ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul i drefnu prawf.

Bydd yr uned profi symudol yn cael ei sefydlu ym Maes Parcio Clwb Rygbi Senghenydd (CF83 4ED), bydd yn agor o 2pm ar Ddydd Mercher 21ain o Hydref tan 5.30pm ar Ddydd Llun 26 ain Hydref 2020.

Bydd yr uned profi galw heibio symudol yng Nghanolfan Hamdden Caerffili (CF83 3SW) yn aros ar agor rhwng 9am-12.30pm.

 

Cyfleuster Profi Coronafeirws Dros Dro Canolfan Hamdden Caerffili (COVID-19)

Canolfan Hamdden Caerffili (CF83 3SW) 9am-12.30pm

Dydd Mawrth 20 Hydref 2020 - Dydd Llun 26 Hydref 2020

 

Cyfleuster Profi Coronafeirws Dros Dro Senghenydd (COVID-19)

Maes Parcio Clwb Rygbi Senghenydd (CF83 4ED) 2pm-5.30pm

Dydd Mercher 21 Hydref 2020 - Dydd Llun 26 Hydref 2020

 

• Apwyntiad yn unig. Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-8pm Dydd Llun - Dydd Gwener ac 8am-6pm Dydd Sadwrn a Dydd Sul i drefnu prawf.

• Gwneir y prawf mewn 5 munud

• Dim ond ar gyfer trigolion Caerffili. Dewch â ID a thystiolaeth cyfeiriad.

• Gwisgwch orchudd wyneb ar eich ffordd yn ôl ac ymlaen i'ch prawf

• Peidiwch â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus

• Peidiwch ag ymweld ag unrhyw siopau neu leoedd eraill ar y ffordd i'ch prawf neu oddi yno

• Cofiwch, os oes gennych symptomau Coronafeirws, rhaid i chi a'ch cartref cyfan hunan-ynysu gartref nes i chi dderbyn canlyniadau eich profion.

 

Mae yna gyfleusterau profi eraill ar gael yng Ngwent ar gyfer pobl sy'n byw y tu allan i ardal Caerffili.

I gael rhagor o wybodaeth am ein holl ganolfannau profi ardraws Gwent, ewch i'n tudalen we Canolfan Brofi.

Ffoniwch 0300 30 31 222 rhwng 8am-8pm Dydd Llun-Dydd Gwener ac 8am-6pm Dydd Sadwrn a Dydd Sul i archebu.

Gallwch hefyd gael prawf wedi'i bostio i'ch cartref.

Gwnewch gais ar-lein yn www.gov.wales neu ffoniwch 119.