Dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, mae bywyd fel roedden ni'n ei nabod wedi newid i bawb.
Fel Bwrdd Iechyd, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig casglu a dogfennu'r amser hwn fel rhan o'n hanes.
Heddiw, rydym yn lansio ein hymgyrch Capsiwl Amser COVID ac yn gofyn i unigolion, Ysgolion, Busnesau, Gweithwyr Allweddol a Theuluoedd i gymryd rhan.
Rydym yn gofyn i bobl:
• Ysgrifennu llythyr i'r dyfodol i ddweud wrthyn nhw sut mae bywyd wedi bod
• Ysgrifennu cofnod dyddiadur am sut mae bywyd wedi newid, neu sut rydych chi'n teimlo
• Creu lluniau neu peintio
• Ffilmio fideo byr
• Anfon ffotograffiau atom yn dangos sut roedd bywyd yn ystod y 'lockdown'
I ychwanegu at y Capsiwl Amser COVID, anfonwch e-bost i COVIDTimeCapsule.ABB@wales.nhs.uk