Heddiw, mae streiciau diwydiannol yn cael ei gymryd gan undeb llafur sy’n cynrychioli staff yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Bydd y cam hwn yn cael effaith sylweddol ar allu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau, a gallai hefyd achosi oedi i rai o’n gwasanaethau gofal brys.
Dylai cleifion ffonio 999 dim ond os ydynt yn ddifrifol wael neu wedi'u hanafu'n ddifrifol a bod perygl i fywyd. Bydd ambiwlansys yn dal i allu ymateb yn y sefyllfaoedd hyn, ond efallai mai dim ond lle mae perygl uniongyrchol i fywyd, sy'n debygol o barhau am gyfnod y streic. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y gofynnir i rai cleifion wneud trefniadau eraill, megis gwneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty neu ddefnyddio gwasanaeth arall. Cysylltir yn uniongyrchol â chleifion y mae eu hapwyntiadau sydd wedi eu trefnu o flaen llaw yn cael eu heffeithio.
Os oes gennych anaf neu salwch difrifol iawn, megis amheuaeth eich bod yn dioddef strôc, ataliad y galon neu waedu difrifol, dylech fynd yn syth i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Hoffwn ni i chi a'ch anwyliaid gadw mor iach â phosibl y Gaeaf hwn - dewch o hyd i'n hawgrymiadau ar gyfer cadw'n iach dros gyfnod y gaeaf.
Os oes angen gofal brys arnoch, cofiwch fod yna nifer o ffyrdd o gael mynediad at hyn:
Gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth iechyd. Gallwch hefyd wirio'ch symptomau gan ddefnyddio eu Gwiriwr Symptomau Ar-lein.
Gall eich fferyllydd lleol ddarparu cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau cyffredin, gan gynnwys dolur gwddf, Doluriau Annwyd a diffyg traul. Dysgwch fwy am y gwasanaethau sydd ar gael yn eich fferyllfa leol.
Mae eich Practis Meddyg Teulu lleol ar agor yr wythnos hon a gallant helpu os oes angen gofal brys arnoch. Fodd bynnag, o ganlyniad i'r streic, mae practisau meddygon teulu yn disgwyl cynnydd yn nifer y galwadau gan gleifion sydd angen triniaeth a chyngor brys. Felly, efallai y bydd rhai meddygfeydd yn ystyried darparu apwyntiadau i’r cleifion hynny sydd â’r anghenion iechyd mwyaf brys a difrifol yn ystod cyfnod y streic yn unig.
Gall ein Hunedau Mân Anafiadau drin mân anafiadau fel ysigiadau, mân losgiadau, bysedd/bysedd traed wedi’u dadleoli, a chyrff estron yn y llygaid a’r clustiau.
Mae'r Unedau Mân Anafiadau yn Ysbyty Brenhinol Gwent (Casnewydd) ac Ysbyty Nevill Hall (Y Fenni) ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, gydag Uned Mân Anafiadau Ysbyty Ystrad Fawr (Ystrad Mynach) ar agor 9am tan hanner nos. Mae'r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Aneurin Bevan (Glyn Ebwy) ar agor o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb-5yp. Dysgwch fwy am ein Hunedau Mân Anafiadau.
Mae manylion llawn streic y GMB ar gael ar wefan Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.