Cymerwch gip ar y lluniau anhygoel o'r awyr yma o'r Uned Radiotherapi Felindre @ Nevill Hall newydd sbon, sy'n agos iawn at agor ei ddrysau i gleifion!
Wedi'i darparu mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Canser Felindre a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, bydd yr uned yn cael ei staffio gan dîm o arbenigwyr Gwasanaeth Canser Felindre ac yn gweithredu fel estyniad o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd.
Mae'r timau anhygoel i gyd yn gweithio'n galed y tu ôl i'r llwyfan i baratoi'r uned ar gyfer agor ym Mehefin.