Heno, nos Wener 24 Mawrth 2023, cynhaliodd y Bwrdd Iechyd ei Wobrau Cydnabod Staff blynyddol. Mae hi wastad yn bleser croesawu pawb i’r achlysur arbennig hwn, ac mae hyn yn arbennig o wir eleni gan mai hwn oedd y digwyddiad cyntaf i’w gynnal wyneb yn wyneb ers cyn y pandemig yn 2019.
Daeth cydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd ynghyd i ddathlu llwyddiannau’r naill a’r llall a hefyd i ddathlu’r gwaith caled, yr ymroddiad a’r gofal eithriadol a roddwyd gan dimau trwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Cyflwynwyd y digwyddiad gan y Prif Weithredwr, Nicola Prygodzicz, a chafwyd perfformiadau gan fyfyrwyr Coleg Gwent a’r band lleol, The Verge.
Medd Nicola: “Yn ddi-os, bu 2022/23 yn flwyddyn gyffrous a heriol. Er gwaethaf yr heriau lu a ddaeth i’n rhan, fe wnaethom barhau i gamu i’r adwy a chanolbwyntio ar y pethau pwysig, sef y cleifion a’r gymuned a wasanaethwn – tystiolaeth o arbenigedd, ymroddiad a thosturi ein staff. Yn hytrach na gweld yr heriau a wynebwn fel rhwystrau, rydym yn eu gweld fel cyfleoedd ar gyfer arloesi, cydweithredu, integreiddio a meddwl yn y tymor hwy, ac mae hyn yn amlwg yn yr holl rai a enillodd wobrau ac a enwebwyd ar gyfer y gwobrau heno.”
Y Tîm Llesiant Microbioleg – Enillydd
Catherine King a’r Tîm Gofal Alcohol a Liam Cowan – Ail
Y Tîm Adsefydlu Cardiaidd a Thîm Hwb Methiant y Galon – Enillwyr
Jane Powell a Lauren Kearney – Ail
Gorsaf Radio YYFM – Enillydd
Tîm Gwirfoddolwyr y Gwasanaethau Mamolaeth a’r Cysylltwyr Enfys – Ail
Dr Caroline Mills – Enillydd
Y Tîm Gofal Triniaethau Dydd ac Alicia Harris – Ail
Ross Andrews – Enillydd
Linda Edmunds a Malcolm Turner – Ail
Y Tîm Cymorth Llinell Gyntaf Gwybodeg – Enillydd
Tîm y Gwasanaethau Mamolaeth, Timau’r Uned Mân Anafiadau a’r Gwasanaeth Llesiant SPACE – Ail
Claire Jordan – Enillydd
Oliver Gall a Grŵp Prosiect Ymchwil yr Iaith Gymraeg – Ail
Regina Reyes – Enillydd
Dr Tim Alce a Vanessa Bailey – Ail
Jo Wood a Jennie Christie – Enillwyr
Emma Foley a Thîm Melo a Connect 5 – Ail
Emma Hagerty – Enillydd
Dr Rachel Thomas-Hewartson a Dr Susan Fairweather a Jane Turner – Ail
Y Tîm Iechyd Rhywiol a Chyfathrebu
Tîm Uwch-arweinwyr Ysbyty Aneurin Bevan
Y Grŵp Mentora Cymheiriaid
Yna, treuliasom amser yn cydnabod sawl aelod o staff sydd, yn anhygoel ddigon, wedi gweithio i’r GIG ers mwy na hanner can mlynedd. Mae’n anhygoel meddwl bod pob un ohonynt wedi cysegru eu bywydau i’r GIG. Diolch o galon a llongyfarchiadau i:
Robert Collins
Anthony Zalick
Carey Weeks
Debs Cornwall
Martin Penny
Shirley Sharland
Colin Phillpott
Llongyfarchiadau i'n holl enillwyr a'r rhai a ddaeth yn ail, a diolch i holl aelodau staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan am fynd gam ymhellach i bob dydd - rydym mor ddiolchgar i chi!