Mehefin 2025
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn falch o lansio ei ymgyrch newydd, "Mae eich GIG yn Llawn BALCHDER-PRIDE", sydd wedi'i gynllunio i ddathlu, cefnogi a chynyddu gwelededd staff, cymunedau a chynghreiriaid LHDTCRhA+ ar draws y Bwrdd Iechyd a Gwent.
Mae wedi’i datblygu gan Rwydwaith Staff LHDTCRhA+ y Bwrdd Iechyd, ac mae'r ymgyrch hon yn gam pwerus tuag at feithrin GIG mwy cynhwysol—un lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu a'u grymuso i fod yn nhw eu hunain, bob dydd o'r flwyddyn.
Wrth Galon 'Mae eich GIG yn Llawn BALCHDER-PRIDE' mae tri piler craidd:
Lansiwyd yr ymgyrch gydag addewid staff, gan wahodd holl aelodau'r Bwrdd Iechyd i lofnodi a dangos yn gyhoeddus eu hymrwymiad i gynhwysiant LHDTCRhA+. O fewn y pythefnos cyntaf cafwyd ymateb anhygoel i’r ymgyrch - Llofnododd dros 1000 o aelodau o staff yr addewid, gyda Thîm Gweithredol y Bwrdd Iechyd yn falch o arwain y ffordd. Mae cefnogwyr yn cael cynnig laniardiau progressive pride a bathodynnau pin i ddangos eu cefnogaeth, ac mae ysbytai a safleoedd gofal iechyd wedi cyflwyno posteri newydd i ailddatgan eu hymrwymiad i fod yn fannau diogel, cynhwysol i bawb.
Dywedodd Scott Wilson-Evans a Dr Elanor Maybury, Cadeiryddion Rhwydwaith LHDTCRhA+ y Bwrdd Iechyd sy'n gyfrifol am arwain a chyflawni'r ymgyrch:
"Mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â mwy na gwelededd yn unig - i rai, mae'r byd yn lle brawychus i fod yn LHDTCRhA+ ar hyn o bryd, mae'r ymgyrch hon yn ymwneud â chreu amgylcheddau diogel, cynhwysol lle mae ein staff a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu gweld ac yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain".
"Gall perthyn i grŵp y tu allan i'r brif ffrwd arwain at allgáu, stigma a straen, ac mae hyn yn effeithio ar iechyd meddwl. Yn ystod Mis Pride, gall gwelededd a dathlu gadarnhau hunaniaeth, adeiladu gwytnwch, a meithrin ymdeimlad o berthyn—mae hyn yn allweddol o ran lles seicolegol. Mae'r ymateb anhygoel hyd yma yn dangos ymrwymiad cryf ein Bwrdd Iechyd i gynhwysiant ystyrlon ac i amddiffyn iechyd meddwl pobl LHDTCRhA+ trwy gysylltiad, derbyn a cynghreiriaeth."
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi ei holl staff ar draws ystod eang o rwydweithiau staff. Bydd yr ymgyrch drwy gydol y flwyddyn yn cyflwyno cyfres o weithgareddau ac adnoddau addysgol ar gyfer staff a'r cyhoedd, gyda'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth, dathlu amrywiaeth, a chryfhau cefnogaeth i unigolion LHDTCRhA+ mewn lleoliadau gofal iechyd trwy gydol y flwyddyn. Mae'r ymgyrch yn cefnogi Cynllun Gweithredu LHDTCRhA+ y Bwrdd Iechyd y bwriedir ei ryddhau yn ddiweddarach eleni.