Mae tîm Helpa Fi i Stopio yn ôl allan yn swydddogol yn y gymuned yn cyflwyno sesiynau grŵp wyneb yn wyneb. Ochr yn ochr â hyn, gallwch barhau i ddewis cael eich sesiynau'n rhithiol neu dros y ffôn yn unol â’ch anghenion unigol.
Bydd sesiynau cymunedol Helpa Fi i Stopio yn cynnwys chwe wythnos o gymorth ymddygiadol i'ch helpu i roi'r gorau i ysmygu'n llwyddiannus, ochr yn ochr â therapïau disodli nicotin am ddim i helpu i reoli’r ysfa i ysmygu.
Profwyd mai sesiynau Helpa Fi i Stopio wyneb yn wyneb yw’r llwybr mwyaf llwyddiannus i roi’r gorau i ysmygu.
Cysylltwch â'r tîm Helpa Fi i Stopio heddiw i gael gwybod mwy am ddod yn rhan o’ch grŵp cymunedol lleol ac am roi'r gorau i ysmygu am byth.
Gwefan: www.helpmequit.wales
Ffôn: 0800 085 2219