Neidio i'r prif gynnwy

Therapi Ysgogi Gwybyddol yn Gwella Lles yr Rheini a Effeithiwyd gan Ddementia yng Ngwent

Mae'r rheini sy'n byw â ddementia a’u teuluoedd yn profi buddion sylweddol o’r Therapi Ysgogi Gwybyddol (TYG) sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a ddarperir yng Nghlinig Cof Torfaen.

Wedi'u lleoli yn Uned Tŷ Siriol Ysbyty'r Sir ym Mhont-y-pŵl, mae'r sesiynau'n darparu cymorth i'r rheini sy'n byw â dementia ffurf ysgafn i gymedrol, gan eu grymuso i gynnal eu galluoedd gwybyddol a rhyngweithio ag eraill i wella eu lles cyffredinol.

Mae’r sesiynau TYG wythnosol dwy awr yn rhan o gwrs 7 wythnos ar gyfer pob carfan, sy’n cael ei redeg gan Weithiwr Cefnogi Dementia, Gail, ac Ymarferydd Iechyd Meddwl, Keith, gyda phob cyfranogwr fel arfer yn cael ei atgyfeirio i’r rhaglen gan Seiciatrydd neu Nyrs Iechyd Meddwl yn dilyn adolygiad blynyddol neu ar ôl ddiagnosis newydd.

Mewn sesiwn wythnos 5 calonogol, bu'r garfan ddiweddaraf yn dathlu'r tymor gyda phrynhawn o weithgareddau ar thema’r Nadolig, wrth greu addurniadau oren Chris Cringle gan ddefnyddio orennau a chlofau ffres i fywiogi’r synhwyrau, ac yna te prynhawn Nadoligaidd wedi’i drefnu gan Weithiwr Cymorth Dementia, Gail.

Dywedodd Gail: “Rydym yn ceisio dal cleifion ar ddechrau eu taith dementia er mwyn rhoi’r offer iddynt helpu gyda’u diagnosis. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl rydyn ni'n eu helpu newydd gael diagnosis ac yn dal i fyw'n annibynnol ac yn gweithredu fel arfer.

“Rydym yn ceisio canolbwyntio’r sesiynau’n drwm ar y pum synnwyr, y gwyddys eu bod yn dwyn atgofion, felly byddwn yn aml yn chwarae cerddoriaeth ac yn defnyddio aroglau lle bynnag y gallwn.”

Fel rhan o’r fenter cydweithio newydd, mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi eu teuluoedd drwy eu gwahodd i fynychu’r cwrs gwybodaeth i ofalwyr dementia, sy’n darparu addysg hanfodol ar reoli gofal dementia, yn eu cyflwyno i adnoddau sydd ar gael ledled Gwent ac yn cynnig cyfle amhrisiadwy iddynt gwrdd ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Ar ddiwedd y cwrs TYG 7 wythnos, mae cyfrangwyr yn cael eu cyfeirio at Ganolfan Ddydd Widdershins, rhan o Age Cymru Torfaen, lle maent yn parhau i gael cymorth parhaus. Mae’r cydweithrediad hwn rhwng y Clinig Cof a Widdershins yn cynnig trosglwyddiad di-dor i ofal pellach, gan helpu iddyn nhw a'u teuluoedd i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi trwy gydol y daith dementia.

Mae'r cwrs wedi derbyn digonedd o adborth cadarnhaol, gyda llawer o gyfranogwyr a'u teuluoedd yn adrodd am welliannau yn eu sgiliau cyfathrebu a gwybyddiaeth.

Dywedodd cyfranogwr: “Pan ddes i i mewn yn gyntaf, fe wnaethon nhw rhoi croeso mawr i mi. Gwnaeth yr awyrgylch cyfeillgar wahaniaeth mawr.”

Mae merch un o'r cyfranogwyr yn ymuno â grŵp gwybodaeth gofalwyr dementia tra bod ei fam yn mynychu ei sesiynau TYG. “Gallaf yn sicr weld y manteision yn barod,” meddai.  Mae hi wedi mwynhau yn fawr; ac mae wedi gwella ei hyder yn fawr. Mae wedi bod yn wych iddi - roedd hi'n betrusgar i ddechrau, ond nawr, mae'n dweud wrth bawb amdano! Mae Gail a Keith yn wych, maen nhw wedi gwneud i fi teimlo bod croeso mawr i fi hefyd.”

Mae gweithwyr dementia, Gail a Keith, yn rhannu angerdd dros ddarparu gofal wedi'i deilwra i bob unigolyn.

Dywedodd yr Ymarferydd Iechyd Meddwl, Keith: “Roeddwn i’n arfer gofalu am fy mam ac roedd gen i ddiddordeb mawr mewn cefnogi gofalwyr. Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn pobl hŷn erioed oherwydd mae ganddyn nhw gymaint o straeon i'w hadrodd. Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud damcaniaethau'n realiti a defnyddio ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Dyna beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd – rhoi’r y person yn gyntaf.”

Dywedodd Gail: “Rwyf wedi fy nenu'n fawr at helpu'r rheini sy'n byw â Dementia. Mae gan bawb daith wahanol a does neb yr un peth – rydyn ni yma i’w helpu ar hyd y ffordd drwy wneud yn siŵr eu bod yn cael gofal sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n iawn iddyn nhw.”

Ar ôl gorfod oedi sesiynau yn ystod pandemig Covid-19, mae tîm TYG wedi croesawu tair carfan o gleifion ers bod yn gwbl weithredol ym mis Gorffennaf 2024.

Bu Dr Tracey Salathial, Uwch Reolwr Nyrsio ar gyfer Iechyd Meddwl Oedolion Hŷn Torfaen, yn chwarae rhan allweddol wrth ailgyflwyno’r sesiynau TYG ar ôl Covid-19, yn dilyn rhywfaint o hyfforddiant ysbrydoledig a ddarparwyd gan Welliant Cymru. Meddai: “Roedden ni eisiau gwneud y mwyaf o’r hyn oedd gennym ni er budd y cleifion. Nid ydym wedi cael unrhyw staff ychwanegol, rydym wedi dysgu defnyddio ein hadnoddau'n effeithiol, ac mae'r canlyniadau'n glir. Rydyn ni wedi derbyn cefnogaeth wych gan ein cydweithwyr yn Welliant Cymru.”

Darperir Therapi Ysgogi Gwybyddol ar hyn o bryd yn ardaloedd Torfaen a Chanol Sir Fynwy, gyda’r bwriad o weithredu’r gwasanaeth ar draws holl Fwrdeistrefi Gwent yn y dyfodol.


 

Ynglŷn â Therapi Ysgogi Gwybyddol

Mae TYG, math o therapi ysgogi'r ymennydd sy'n seiliedig ar dystiolaeth, yn canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd meddwl ac emosiynol cleifion dementia trwy ystod o weithgareddau ysgogol sy'n annog cyfathrebu, cof a rhyngweithio cymdeithasol. CST yw'r unig driniaeth nad yw'n gyffuriau a ategir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE).